Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Yn ddiweddar, cynrychiolodd Jonathan Webb, Sioned Eurig a Gavin Knox y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Chronfa Risg Cymru yng Ngwobrau Cyfreithiol Lexis Nexis 2026 yn Llundain lle’r oeddem wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tîm Mewnol y Flwyddyn. Er na wnaethom ennill yn ein categori, mae cyrraedd y rhestr fer mewn seremoni wobrwyo gyfreithiol genedlaethol yn gamp wych ac yn dystiolaeth wirioneddol o ymroddiad ac effaith ein holl staff.