Neidio i'r prif gynnwy

Ymddeoliad Anne-Louise

Anne-Louise Ferguson

Mae cyfuniad unigryw Anne-Louise o wybodaeth gyfreithiol, profiad a dealltwriaeth o’r GIG ac ymarfer meddygol wedi ei gwneud yn arbenigwr blaenllaw yn ei maes. Mae ei thîm wedi cynyddu bedair gwaith mewn maint ers ei greu ac mae hi'n rheolwr, cyfarwyddwr ac yn ddylanwadwr polisi uchel ei pharch yng Nghymru.

Mae Anne-Louise wedi ymrwymo i ddatblygiad personol a llesiant pawb yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn ogystal â'r sefydliad yn ehangach, gan ei bod wedi cadeirio Grŵp Strategaeth Llesiant Gweithwyr PCGC o'i gychwyn.  Mae hi wedi bod yn frwd wrth annog dyrchafiad a datblygiad aelodau o staff ac mae'n ymroddedig i sicrhau bod hyfforddiant o'r ansawdd gorau yn cael ei ddarparu i wella cyfleoedd i bawb. Mae Anne-Louise bob amser wedi gweithredu polisi “drws agored” i annog staff i rannu eu llwyddiant ac i geisio cymorth ar broblemau. Mae hi'n cynnwys aelodau iau o staff mewn llawer o'i hawliadau gwerth uchel cymhleth iawn er mwyn sicrhau bod ei harbenigedd yn cael ei rannu. Yn ogystal, mae Anne-Louise yn darparu hyfforddiant mewnol i GIG Cymru o lefel y bwrdd i lawr, gan rannu ei chyfuniad unigryw o wybodaeth ac arbenigedd cyfreithiol a gwybodaeth am y GIG â GIG Cymru.

Mae Anne-Louise bob amser yn mynd yr ail filltir yn ei gwaith ac y tu allan iddo. Mae hi'n gyn-lywydd Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd a'r Cylch ac yn Llywodraethwr ysgol Gymraeg leol, er ei bod newydd ddechrau siarad Cymraeg. Yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2019 fe’i penodwyd yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig, am ei gwasanaethau i’r GIG. Am 3am ar fore'r diwrnod yr oedd yn derbyn ei medal, cafodd ei deffro gan alwad gwaith brys a arweiniodd ati’n cael Barnwr yr Uchel Lys allan o'i wely i wneud gorchymyn triniaeth addas. Ym mis Hydref aeth ymlaen i gael Canmoliaeth Uchel yng nghategori Cyfreithiwr Mewnol y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas y Gyfraith.

Dywedodd Anne-Louise, “Mae wedi bod yn bleser arwain tîm mor dalentog a llawn cymhelliant o gyfreithwyr a staff cymorth, ac yn her hefyd!”

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru mae Anne-Louise yn falch o'r cynnydd a wnaed gan y tîm bach wrth wella diogelwch a dysgu cleifion a chychwyn prosiectau llwyddiannus er budd cleifion yng Nghymru.

Mae Anne-Louise yn hapus iawn ac yn falch bod y sefydliad wedi cynnig cyfle iddi ddychwelyd i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg ar ôl seibiant, i ddathlu ei hymddeoliad, i reoli ei llwyth achosion Esgeulustod Clinigol.

Dywedodd Mark Harris, y Dirprwy Gyfarwyddwr, “Yn anaml iawn mewn bywyd bydd rhywun yn ddigon ffodus i gwrdd ag unigolyn sy’n wirioneddol ddisglair. Mae Anne-Louise (y Bos) yn berson o'r fath. Rywsut, mae hi’n llwyddo i gyfuno meddwl clyfar, arweinyddiaeth gref ac ymarfer ymgyfreitha medrus gyda'i phersonoliaeth hyfryd, hoffus a chyfeillgar. Er bod Anne-Louise yn ymddeol, rwy’n falch iawn ein bod wedi ei pherswadio i ddod yn ôl yn fuan.”