Rebecca Jarvis Pennaeth y Gweithlu Digidol Ymunodd Becky â thîm y Gweithlu Digidol ym mis Ebrill 2016 ar ôl 27 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i ragflaenwyr fel eu Pennaeth Gwybodaeth am y Gweithlu. Mae Becky yn gyfrifol am reoli tîm y Gweithlu Digidol yn ogystal ag arwain a chefnogi Rhaglen Waith y Gweithlu Digidol i wneud y mwyaf o atebion digidol. |
|||
James Webber Rheolwr Prosiect y Gweithlu ar gyfer Cymru Gyfan Ymunodd James ag isadran Gweithlu Digidol PCGC ym mis Tachwedd 2021 ar ôl gweithio i’r tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol y sefydliad rhwng 2015 a 2017. Cyn hyn bu’n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi gwybodaeth am y gweithlu o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae James yn angerddol am rôl atebion digidol wrth sicrhau gwell effeithlonrwydd gweithlu a thrawsnewid prosesau Adnoddau Dynol trafodol. Cymerodd gyfrifoldeb rheoli am eAteb yn 2022. |
|||
Cath Walters Rheolwr prosiectau'r Gweithlu Digidol Ymunodd Cath â Thîm y Gweithlu Digidol ym mis Mai 2019 i gynorthwyo gyda phrosiectau, ond o fis Hydref 2020 mae hi wedi bod yn rheoli tîm Cymorth ESR Cymru. Swydd fwyaf diweddar Cath cyn iddi ymuno â PCGC oedd Hyfforddwr ESR gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg lle bu’n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi am 35 mlynedd. |
|||
Jamie Preece Arweinydd Tîm Cymorth ESR Cymru Ymunodd Jamie â’r Tîm Gweithlu Digidol ym mis Tachwedd 2019 fel Swyddog Cymorth ar y ddesg gymorth. Mae bellach wedi ymgymryd â swydd newydd fel Arweinydd Tîm ac mae’n goruchwylio’r tîm Cymorth ESR. |
|||
Digital Workforce Support Officers | |||
Robin Bevan |
Ymunodd Robin â thîm Cymorth ESR Cymru i ddechrau fel aelod Banc ym mis Ebrill 2022, cyn iddo gael swydd barhaol ym mis Mehefin 2022. Dyma ei swydd gyntaf o fewn y GIG. |
||
Michael James |
Ymunodd Mike â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2021. Dyma ei swydd gyntaf yn y GIG. |
||
Simon Davies |
Ymunodd Simon â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Ionawr 2021 cyn gweithio am gyfnod byr ym maes caffael. Ail-ymunodd â’n tîm ym mis Ionawr 2022. |
||
Susan Davies |
Ymunodd Sue â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2021. Dyma ei swydd gyntaf yn y GIG. |
||
Catrin Isaac |
Ymunodd Catrin â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Cyn hynny bu’n gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru. |
||
Clare Instrell |
Ymunodd Clare â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2022. Cyn hynny bu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda’i gyrfa yno yn ymestyn dros 10 mlynedd. |
||
Alyson Jones |
Mae Alyson wedi ymuno â Chymorth ESR Cymru yn ddiweddar ym mis Rhagfyr 2022. Mae hi wedi cael gyrfa eang yn y GIG gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac mae newydd gael gwobr gwasanaeth hir am 25 mlynedd o wasanaeth. |
||
Kayleigh Davies |
Ymunodd Kayleigh â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2022. Cyn ymuno â’r tîm bu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. |