Mae’r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol wedi'i achredu gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) i'r Safon Ryngwladol ar gyfer Labordai Calibradu a Phrofi ISO/IEC 17025. Mae cyflawniad sefydliad o ofynion ISO/IEC 17025 yn golygu bod y labordy yn bodloni gofynion cymhwysedd technegol, didueddrwydd a system reoli. Mae achredu yn ysgogi hyder drwy ategu ansawdd y canlyniadau, sy’n sicrhau y gellir eu holrhain, eu bod yn gymaradwy ac yn ddilys.
Yn 2023 enillodd y Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol achrediad i'r Safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid (CSE).
Mae'r safon CSE yn asesu sefydliadau ac yn mesur meysydd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid y mae ymchwil wedi'u nodi fel blaenoriaeth i gwsmeriaid. Er mwyn i sefydliad gael ei gydnabod fel un sy’n cyflawni Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid rhaid iddo gael eu hasesu’n llwyddiannus yn erbyn meini prawf llym, sy’n canolbwyntio’n benodol ar y canlynol:
Mae’r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol yn parhau i fod yn ymrwymedig i reoli ein heffaith amgylcheddol, lleihau ein hôl troed carbon ac integreiddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy i fywyd gwaith beunyddiol.
Er mwyn gweithredu mentrau amgylcheddol ac effeithlonrwydd mae ein Hadran Sicrhau Ansawdd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Corfforaethol PCGC i gadw ardystiad System Rheoli Amgylcheddol ISO 14001:2015