Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gydag Allocate Software i ddefnyddio’r pecyn HealthRoster mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd HealthRoster yn cael ei gyflwyno’n raddol i adrannau ar draws y sefydliad.
Bydd pob adran yn elwa ar weithredu HealthRoster ar draws PCGC, gan ei chaniatáu i gynllunio ac ailgyfeirio adnoddau dynol yn y modd mwyaf diogel, cynaliadwy a theg posibl. Bydd y system hefyd yn garedig i weithwyr unigol, gan amddiffyn eu diogelwch a’u hannibyniaeth, a bydd hefyd yn gwneud bywydau rheolwyr rhestru a gweithwyr yn haws. Mae’r system yn rhyngwynebu’n awtomatig i system banc electronig sy’n galluogi rheolwyr i gyflwyno sifftiau i’r banc ac i unigolion drefnu sifftiau heb gysylltu â swyddfa’r banc.
Bydd y data a rowch yn HealthRoster yn cael eu trosglwyddo i’r Gyflogres ar gyfer gwneud taliadau, gan gael gwared ar yr angen am daflenni amser ysgrifenedig (Ffurflenni Tâl).
Manteision y system newydd
Beth yw’r manteision
I’r gweithiwr –
I’r rheolwr –
Gellir gweld HealthRoster ar gyfrifiaduron a dyfeisiau symudol. Dyma gip sydyn ar sut y byddai HealthRoster yn edrych:
Pryd fydd HealthRoster yn cael ei weithredu?
Dechreuodd y prosiect ym mis Mehefin 2021. Yn dilyn cyfnod o ffurfweddu’r system a’r gyflogres, bydd Tîm y Gweithlu Digidol yn cysylltu â rheolwyr yr adrannau i drafod a threfnu gweithredu’r system ar gyfer pob adran. Mae cynllun y rhaglen yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael drwy SharePoint.
Siart y broses weithredu:
Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â Lloyd.Jones@wales.nhs.uk