Neidio i'r prif gynnwy

System Health Roster Newydd yn PCGC

 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gydag Allocate Software i ddefnyddio’r pecyn HealthRoster mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd HealthRoster yn cael ei gyflwyno’n raddol i adrannau ar draws y sefydliad.

Bydd pob adran yn elwa ar weithredu HealthRoster ar draws PCGC, gan ei chaniatáu i gynllunio ac ailgyfeirio adnoddau dynol yn y modd mwyaf diogel, cynaliadwy a theg posibl. Bydd y system hefyd yn garedig i weithwyr unigol, gan amddiffyn eu diogelwch a’u hannibyniaeth, a bydd hefyd yn gwneud bywydau rheolwyr rhestru a gweithwyr yn haws.  Mae’r system yn rhyngwynebu’n awtomatig i system banc electronig sy’n galluogi rheolwyr i gyflwyno sifftiau i’r banc ac i unigolion drefnu sifftiau heb gysylltu â swyddfa’r banc. 

Bydd y data a rowch yn HealthRoster yn cael eu trosglwyddo i’r Gyflogres ar gyfer gwneud taliadau, gan gael gwared ar yr angen am daflenni amser ysgrifenedig (Ffurflenni Tâl).
 

Manteision y system newydd

  • Gellir mewngofnodi’n hawdd (Rhif cyflogres)
  • Mae’n hawdd ei defnyddio
  • Tasgau gweinyddol wedi’u symleiddio i reolwyr
  • Dim ffurflenni tâl
  • Gostyngiad mewn absenoliaeth
  • Tryloywder mewn lefelau staffio
  • Mae’n rhestru dyletswyddau’r holl staff, parhaol a banc
  • Mae’n integreiddio â MeApp fel bod gan staff fynediad hawdd at eu rhestrau dyletswyddau ar ddyfeisiau symudol
  • Swyddogaeth restru awtomatig i leihau’r gwaith gweinyddol sydd ynghlwm wrth greu rotâu


Beth yw’r manteision

I’r gweithiwr –

  • Gall lawrlwytho MeApp i’w ddyfais symudol
  • Gall weld calendr ar gyfer ei restr ddyletswyddau unigol
  • Gall archebu gwyliau blynyddol drwy’r ap
  • Gall wneud cais am ddyletswyddau
  • Gall archebu dyletswyddau banc (ar yr amod bod ganddo swydd banc weithredol)
  • Gall gadw cofnod o’i amser mewn llaw

I’r rheolwr –

  • Mae llai o waith gweinyddol ynghlwm wrth greu rotâu, gellir rheoli absenoldebau a staffio dros dro a gallwch gwblhau amserlenni unigol
  • Adrodd (pan nad oes rhywun ar gael, staffio, cyllidebau a llawer mwy)
  • Archebu staff banc
  • Cofnodi ar gyfer amser mewn llaw
  • Tâl awtomatig i’r Gyflogres
  • Rhestru awtomatig a chofnodi awtomatig o batrymau gweithio personol y cytunwyd arnynt (sy’n gysylltiedig â threfniadau gweithio hyblyg)

Gellir gweld HealthRoster ar gyfrifiaduron a dyfeisiau symudol.   Dyma gip sydyn ar sut y byddai HealthRoster yn edrych:


Pryd fydd HealthRoster yn cael ei weithredu?

Dechreuodd y prosiect ym mis Mehefin 2021.  Yn dilyn cyfnod o ffurfweddu’r system a’r gyflogres, bydd Tîm y Gweithlu Digidol yn cysylltu â rheolwyr yr adrannau i drafod a threfnu gweithredu’r system ar gyfer pob adran.  Mae cynllun y rhaglen yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael drwy SharePoint. 

 

Siart y broses weithredu:

 

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â Lloyd.Jones@wales.nhs.uk

 

Rhannu: