Gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a rhanddeiliaid eraill, cyflawnodd Tîm Categori Cyflenwi Cyfalaf y Gwasanaethau Caffael rôl gyflenwi fawr ar gyfer Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor a oedd yn ei dro wedi galluogi'r ysbyty i agor bron 5 mis cyn yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol.
Gan weithio ochr yn ochr â thîm y Prosiect Dyfodol Clinigol ac ochr yn ochr â'r prif gontractiwr, Laing O'Rouke, helpodd y tîm i ddarparu canolfan gofal critigol arbenigol o'r radd flaenaf - sydd hyd yn oed yn fwy nodedig wrth ystyried Coronafeirws a'r cyfyngiadau a osodir oherwydd y pandemig.
Roedd y gwaith o adeiladu'r ysbyty newydd sydd wedi'i leoli yng Nghwmbrân, De-ddwyrain Cymru, wedi'i seilio ar Strategaeth Dyfodol Clinigol a gomisiynwyd yn arbennig gan y Bwrdd Iechyd. Roedd Tîm Categori Cyflenwi Cyfalaf PCGC yn gyfrifol am brynu offer, sicrhau amserlenni dosbarthu’r cyflenwyr, rheoli trosglwyddiadau offer adran a dyletswyddau comisiynu, ac roeddent yn gallu cwrdd â gofynion y prosiect hwn yn llawn mewn llai o amser ac o fewn y gyllideb.
At ei gilydd, mae'r tîm wedi bod yn gyfrifol am reoli:
Gan fyfyrio ar y rôl bwysig a gyflawnwyd gan y Tîm Caffael, dywedodd Sam Pennington, Dirprwy Bennaeth Cyrchu/Cyfalaf: “Mae hyn oll wedi bod yn bosibl oherwydd sianelau cyfathrebu clir, cymryd rhan mewn cyfarfodydd strategol a gweithredol, ac fel aelodau gwerthfawr yr ymddiriedwyd yn eu harbenigedd a'u hymrwymiad i gyflawni'r prosiect hwn.”
“Ar y cyd â thimau Clinigol y Bwrdd Iechyd, gwnaeth y Tîm Categori Cyflenwi Cyfalaf hwyluso manylebau cymhleth, ymgysylltu â rhaglenni trosglwyddo offer, a nodi costau cylch bywyd cyfan. Hyn oll ag effaith pwysau ychwanegol cadw pellter cymdeithasol a chadwyni cyflenwi bregus ledled y byd o ganlyniad i bandemig COVID-19.”
“Wedi'i ymgorffori o fewn diwylliant o bartneriaeth, mae'r tîm hwn wedi dangos y gallu i gymryd penderfyniadau effeithlon, gwytnwch, ymroddiad, goresgyn pwysau eithafol, ac maent yn falch o fod yn rhan o'r cyfle “unwaith mewn oes” hwn. Mae eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb yn arddangos o ddifrif yr hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio mewn partneriaeth â thimau amlddisgyblaethol a thraws-swyddogaethol. ”
Dywedodd Lucie Cornish, Clinigydd Prosiect, “Mae tîm Gwasanaethau Caffael PCGC wedi bod yn allweddol i agoriad llwyddiannus Ysbyty Athrofaol y Faenor. Galwyd arnynt i ymateb nid yn unig i un ond dau gais i gyflymu caffael symiau mawr o offer i gefnogi ymateb BIPAB i COVID-19. Yr ymateb cyntaf oedd ym mis Ebrill dros gyfnod dwys, digynsail o 5 wythnos gyda phroblemau sylweddol yn y gadwyn gyflenwi a'r ail ymateb yn arwain at agor pob adran yn Ysbyty Athrofaol y Faenor 4 mis yn gynharach ac yn cynnwys caffael offer technegol iawn.
“Mae hon wedi bod yn dasg anferth ac yn un y mae'r tîm cyfan wedi ymateb iddi gydag ymrwymiad trawiadol. Maent wedi caffael dros 9,000 math gwahanol o offer i alluogi Ysbyty Athrofaol y Faenor i agor yn gynnar ac wedi gweithio'n agos gyda thimau clinigol y bwrdd iechyd, y tîm Dyfodol Clinigol, cyflenwyr a llawer o bobl eraill gyda phroffesiynoldeb ac effeithiolrwydd. Mae'r adborth o bob rhan o BIPAB wedi bod yn gadarnhaol drwyddi draw a, heb amheuaeth, ni allai'r ysbyty fod wedi agor yn ddiogel heb eu gwaith caled."
Dywedodd Nicola Prygodizicz – aelod Bwrdd Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Diolch o galon am ymdrech anhygoel y tîm i gyrraedd lle rydyn ni heddiw gydag Ysbyty Athrofaol y Faenor yn agor yn gynnar. Rydych chi wedi bod yn dîm caffael gwych ac wedi'ch gwreiddio'n llwyr yn y tîm ehangach o'r dechrau, gan weithio ar y cyd ac yn ymatebol iawn i anghenion y prosiect a'r gwasanaethau. Yn bendant ni fyddem wedi llwyddo heb eich gwaith caled a'ch ymrwymiad personol. Diolch eto am fod yn dîm mor eithriadol!”