Sylw diweddar gan Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae diogelwch cleifion wrth wraidd rhaglen SganioErDiogelwch GIG Cymru. Mae cyflwyno sganio codau bar ac awtomeiddio'r cysylltiad rhwng cynhyrchion, lleoedd a phobl a nodwyd yn rhai unigryw, yn darparu data amser real yn y man lle rhoddir gofal a’r gallu i olrhain dyfeisiau meddygol sydd wedi'u mewnblannu ar unwaith pe bai angen galw cynnyrch neu glaf yn ôl. Bydd y buddsoddiad yn y fenter Unwaith i Gymru hon hefyd yn sicrhau arbedion ariannol sylweddol, gwell rheolaeth ar stoc, bydd yn arbed y staff clinigol rhag gorfod cyflawni tasgau gweinyddol llafurus a bydd yn diogelu ein cleifion rhag niwed y gellir ei osgoi ar yr un pryd.”
Ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol achos busnes llawn a buddsoddiad cysylltiedig fel y camau cyntaf tuag at ymgorffori egwyddorion ac arferion SganioErDiogelwch ledled Cymru. Mae diogelwch cleifion wrth wraidd y rhaglen ac mae safonau data a thechnoleg chipio data yn cael eu cyflwyno ledled GIG Cymru.
Nid yn unig y bydd awtomeiddio cysylltu cynhyrchion, lleoedd a phobl a nodwyd yn rhai unigryw, yn help wrth atal niwed i gleifion â data amser real yn y man lle rhoddir gofal, ond fe fydd hi hefyd yn galluogi olrhain dyfeisiau meddygol sydd wedi'u mewnblannu ar unwaith pe bai angen galw claf yn ôl.
Llofnodwyd contract ym mis Medi 2021 ar gyfer Datrysiad Stocrestr Cymru Gyfan (SupplyX) a fydd yn defnyddio'r safonau hyn a thechnoleg sganio â llaw yn sail i'r buddion uchod. Mae’r buddion a ddaw o optimeiddio’r stocrestri yn rhan annatod o SupplyX. Maen nhw hefyd yn golygu bod y gwaith archebu ac ailgyflenwi stoc yn llai beichus o lawer ac yn rhyddhau amser clinigol er mwyn gofalu am gleifion.
Mae SupplyX eisoes ar waith yn GIG Cymru ym myrddau iechyd prifysgolion Aneurin Bevan, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr. Maen nhw i gyd ar wahanol gamau yn y broses, ond gall pob un ohonynt ddangos bod buddion sylweddol clinigol ac i gleifion o’i weithredu.