Neidio i'r prif gynnwy

Hwb Canolog Ardystio Marwolaethau COVID-19

Deddfwriaeth a Chanllawiau

Ar 3 Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun Gweithredu Coronafeirws sy'n nodi mesurau i ymateb i'r achosion o COVID-19 yng Nghymru a Lloegr mewn ffordd reoledig a systematig. Cyflwynwyd y Bil i Dŷ’r Cyffredin a bu ei Ddarlleniad Cyntaf ddydd Iau 19 Mawrth 2020 a bydd ASau yn ystyried y Bil nesaf yn yr Ail Ddarlleniad ddydd Llun 23 Mawrth 2020. Os cymeradwyir Cynnig Busnes y Tŷ, cymerir cam Pwyllgor y Tŷ Cyfan a'r Trydydd Darlleniad hefyd. Mae'r Bil yn galluogi gweithredu mewn 5 maes allweddol ac mae'r cynnig hwn yn canolbwyntio ar Adran 4: Rheoli'r ymadawedig gyda pharch ac urddas.

Mae'r Llywodraeth wedi rhagweld y bydd rhwng 20,000 a 277,000 o farwolaethau ychwanegol ledled Cymru a Lloegr o ganlyniad i COVID-19 yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Yng Nghymru, gallai hyn olygu hyd at 35,000 o farwolaethau ychwanegol drwy gydol y pandemig. Mae hyn yn cymharu â thua 33,000 o farwolaethau ledled Cymru mewn blwyddyn “arferol” a bydd yn rhoi pwysau sylweddol ar ein Gwasanaeth Iechyd, nid yn unig i drin cleifion, ond hefyd i sicrhau bod yr ymadawedig a'u perthnasau yn parhau i dderbyn gwasanaethau cyfreithiol a phriodol.

Mae’r Bil yn datgan ‘Rydym am sicrhau bod yr ymadawedig yn cael ei drin gyda’r parch a’r urddas mwyaf a bod y gweithdrefnau cyfredol mewn perthynas â chofrestru a rheoli marwolaethau a marw-enedigaethau yn cael eu haddasu i alluogi hyn ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd.’

Mae'r Ddeddf yn sicrhau y gall Ymarferydd Meddygol nad yw wedi bod yn bresennol yn ystod y salwch olaf gwblhau’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a ffurflen amlosgi 4.

Bydd hyn yn sicrhau’r canlynol:

  • Lleihau'r amser a gymerir i feddygon rheng flaen gwblhau'r gwaith papur ardystio marwolaeth: gan leihau'r amser y maent yn ei dreulio i ffwrdd oddi wrth gleifion a gwisgo a thynnu PPE hanfodol eto
  • Sicrhau nad yw meddygon yn symud yn ddiangen rhwng ardaloedd clinigol a gweinyddol mewn safle gofal eilaidd
  • Sicrhau bod achos marwolaeth yn gywir wrth sicrhau bod yr achos yn cwrdd â gofynion y Cofrestrydd a dim ond achosion y dylid adrodd amdanynt sy'n cael eu hysbysu i'r crwner
  • Atal oedi a gofid i'r rhai mewn profedigaeth
  • Atal gorlenwi yng nghyfleusterau'r corffdy oherwydd gwaith papur anghyflawn sy'n ofynnol i drosglwyddo'r ymadawedig i'r cartref angladdau
  • Bydd rhoi cyngor ar dystysgrifau marwolaeth yn lleihau nifer yr achosion a adroddir i grwner fel achos marwolaeth ‘anhysbys / amheus’.

 

Dolenni

Atodlen 13 a 28 Deddf COVID-19

 

Deddf Coronafeirws - Canllawiau Darpariaethau ar gyfer Marwolaethau Ychwanegol

https://gov.wales/health-professionals-coronavirus

 

Cylchlythyr y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ynghylch newidiadau i ardystio marwolaethau

https://nafd.org.uk/wp-content/uploads/2020/03/GROCircular-5-2020.pdf

 

Y rheoliadau / canllawiau amlosgi safonol ar gyfer cwblhau ffurflen 4 gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyda'r canllawiau COVID-19 newydd

https://www.gov.uk/government/publications/medical-practitioners-guidance-on-completing-cremation-forms

https://nafd.org.uk/2020/03/27/changes-to-cremation-forms-information-from-the-ministry-of-justice/

Rhannu: