Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynghylch Covid-19

 

DIWEDDARIAD PWYSIG AR GYFER STAFF

AMSEROEDD AGOR A CHAU NEWYDD AR GYFER SWYDDFEYDD PCGC

Oherwydd yr hinsawdd sydd ohoni, byddwch yn ymwybodol bod amseroedd agor a chau ein swyddfeydd fel a ganlyn:

  • Y Pencadlys yn Nantgarw: Ar agor o 6am tan 7pm.
  • Tŷ’r Cwmnïau: Dim newid ar hyn o bryd (24/7) ond ymgynghorwch â Chymorth Busnes ymlaen llaw, os oes angen i chi gael mynediad y tu allan i oriau (h.y. ar ôl 8.00pm).
  • Tŷ Matrix: Ar agor o 5am tan 10pm.
  • Mamhilad: Ar agor o 6am tan 8pm. Ymgynghorwch â Chymorth Busnes, os oes angen i chi weithio y tu allan i'r oriau swyddfa diwygiedig hyn.
  • Tŷ Alder: Ar agor o 6am tan 8pm. 
  • Storfeydd / Y Gwasanaeth Negesydd Iechyd Westpoint, a swyddfeydd eraill ar safleoedd y Bwrdd Iechyd: Mae gan bob storfa Gaffael, gan gynnwys IP5, y Gwasanaeth Negesydd Iechyd a’r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol yr opsiwn i ymestyn eu horiau agor, yn ôl yr angen.  Rhowch wybod i'r arweinydd safle a'r gwarchodwr diogelwch perthnasol yn y lle cyntaf. Mae safleoedd y Bwrdd Iechyd / Ysbytai wedi cadarnhau y gellir hwyluso mynediad 24/7.

Ar gyfer pob safle, gellir hwyluso mynediad y tu allan i oriau ar gyfer ceisiadau a wneir ymlaen llaw ac os oes angen, gallwn ystyried darparu opsiwn 24/7.  Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch Rheolwr Cymorth Busnes neu’ch Arweinydd Safle perthnasol i drafod hyn. 

Am resymau diogelwch, sicrhewch fod digon o staff ar gael o fewn is-adrannau ar gyfer yr oriau swyddfa diwygiedig.  Ni argymhellir gweithio’n unigol heb gydweithwyr eraill a byddem yn annog yr holl staff i weithredu system cyfeillio, a gweithio mewn parau.

 

 

Rhannu: