Mae hwn yn fersiwn beta. Bydd rhagor o wasanaethau'n cael eu hychwanegu.
Mae rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau i unigolion a chymunedau. Mae PCGC wedi ymrwymo i greu ac i ddatblygu dull cadarnhaol o ymdrin â gwasanaeth cwsmeriaid, gan ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid ac i greu amgylchedd lle mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn elfen graidd o reoli a darparu gwasanaethau.