Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru

Doctor and patient sitting on a couch facing each other, having a conversation. 

Mae Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn cael ei letya gan PCGC ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun, a gafodd ei sefydlu ym mis Hydref 2017, yw cynorthwyo pobl sydd wedi eu heintio â Hepatitis C a/neu HIV yn dilyn triniaeth â gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe gan y GIG yn y 1980au a 1990au. Disodlodd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) gynlluniau blaenorol y DU (Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, MFET Ltd, Cronfa Skipton a Sefydliad Caxton) ar gyfer y rhai sydd wedi’u heintio yng Nghymru. 

Bydd unrhyw un sy’n rhan o’r cynllun ar hyn o bryd wedi derbyn taliad interim o £100,000 ar 27 Hydref 2022.

Rhannu: