Mae gan bob corff iechyd yng Nghymru Arbenigwr Atal Twyll Lleol enwebedig sy’n mynd i’r afael â thwyll ar raddfa lai ym mhob corff iechyd. Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf o fewn y GIG ar gyfer rhoi gwybod am honiadau o dwyll.
Os bernir bod achosion yn gymhleth ac yn fwy difrifol, cânt eu cyfeirio at dîm Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru o fewn PCGC.