Mae Gethin yn gweithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt) fel Rheolwr Ymchwilio i Ddigwyddiadau Clinigol Difrifol ac mae wedi cael ei gyflogi gan Gronfa Risg Cymru (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) fel Uwch Gynghorydd Diogelwch a Dysgu Banc ers mis Rhagfyr 2018 ac yna fel Prif Gynghorydd Diogelwch a Dysgu ym mis Mawrth 2020. Mae’n Barafeddyg Cofrestredig, ac mae wedi gweithio yn y GIG ers 18 Mai 2003.
Mae Gethin wedi bod yn rhan o dîm Sicrwydd Gwybodeg Glinigol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ers mis Gorffennaf 2017. Mae'r tîm hwn yn canolbwyntio ar broses effeithiol o reoli risg ymchwilio a dysgu o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchion neu wasanaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cysylltu â staff gan gynnwys clinigwyr arbenigol ac arbenigwyr technegol o fewn sefydliadau GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, contractwyr/cyflenwyr allanol yn ogystal â llywodraeth y DU a sefydliadau amrywiol y GIG o bob un o wledydd y DU.
Cyn ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, roedd Gethin yn Rheolwr Diogelwch Cleifion a Risg Clinigol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, lle roedd yn rheoli tîm â llwyth gwaith o ddigwyddiadau niweidiol amrywiol, digwyddiadau niweidiol difrifol, cwynion, hawliadau a chwestau crwner.
Mae Gethin wedi bod â swyddi clinigol a rheoli amrywiol yn ystod ei gyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ynghyd ag ymgymryd â rôl Comander Ar Alw Rhanbarthol Arian (Tactegol).
Yn ystod ei yrfa mae Gethin wedi cwblhau Cwrs Dadansoddi Gwraidd y Broblem ac Ymchwiliwr Arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (NPSA) ac mae ganddo Ddyfarniad Proffesiynol Uwch Lefel 7 mewn Trin Cwynion ac Ymchwiliadau. Hefyd, mae wedi ennill ei Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol; mae wedi cwblhau hyfforddiant Swyddog Diogelwch Clinigol gyda NHS Digital, yn ogystal â Ffactorau Dynol mewn Ymchwilio i Ddamweiniau a Digwyddiadau gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae Gethin yn Aelod Cyswllt o'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) ac mae'n aelod o Goleg y Parafeddygon.
Mae Gethin yn cynnal ei ymarfer clinigol Parafeddygol trwy gyfuniad o Gontract Anrhydeddus a Chontract Banc gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn ei amser hamdden mae Gethin yn hoff iawn o chwaraeon. Mae'n hyfforddwr Rygbi Lefel 2 ac yn Brif Hyfforddwr (Hyfforddwr Chwaraewyr) XV 1af Clwb Rygbi Dewi Sant yn Adran Rygbi Undeb Cymru Cynghrair 3 Gorllewin A ac mae hefyd yn helpu hyfforddwr ac yn chwarae i dîm rygbi gallu cymysg Llychlynwyr Sir Benfro.
Mae Gethin hefyd yn chwarae criced i Glwb Criced Johnston ac mae'n hyfforddwr Clwb Criced dan 11 oed Hwlffordd a chriced Dynamos (merched 7-11 oed).
Mae Gethin hefyd yn gynghorydd cymuned ac yn Gadeirydd presennol ei gyngor lleol (Cyngor Cymuned Rudbaxton).
E-bost: Gethin.Bateman2@wales.nhs.uk