Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol

Beth yw Gwasanaeth Archwilio Meddygol?

Mae Gwasanaeth Archwilio Meddygol Cymru Gyfan yn cynnig craffu annibynnol ar bob marwolaeth sy'n digwydd yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cyfeirio'n uniongyrchol i'w hymchwilio at Grwner Ei Fawrhydi. 

Mae archwilwyr meddygol yn uwch feddygon meddygol sydd wedi'u contractio i roi craffu annibynnol ar achosion marwolaethau nad ymchwilir iddynt gan grwneriaid, y tu allan i'w dyletswyddau clinigol arferol. Maent wedi'u hyfforddi mewn elfennau cyfreithiol a chlinigol o brosesau tystysgrif marwolaeth. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau statudol sydd wedi'u nodi mewn rheoliadau. Mae Archwilwyr Meddygol yn gwneud y canlynol:

  • Darparu rhagor o ddulliau diogelu i'r cyhoedd drwy sicrhau craffu annibynnol ar bob marwolaeth nad oes angen ei chyfeirio at y crwner
  • Sicrhau bod marwolaethau’n cael eu cyfeirio’n briodol at y crwner.
  • Rhoi cyfle i bobl sy’n galaru ofyn cwestiynau a chodi pryderon i unigolyn nad oedd yn rhan o ofal yr ymadawedig
  • Gwella ansawdd o ardystio marwolaeth
  • Gwella ansawdd data marwolaethau

 

 

Canllawiau safonau ar gyfer Cymru a Lloegr

Archwiliwr Meddygol Cenedlaethol Cymru a Lloegr sy'n cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol am osod y safonau ar gyfer archwilwyr meddygol.

Mae canllawiau'r Archwiliwr Meddygol Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr yn nodi'r safonau hyn, ac yn gosod canllawiau ar gyfer eu rhoi ar waith.

 

 

Yr hyn a wna archwilwyr meddygol

Mae archwilwyr meddygol yn ceisio ateb 3 chwestiwn:

  1. Beth a achosodd farwolaeth yr ymadawedig?
  2. Oes angen hysbysu'r crwner am y farwolaeth?
  3. A oedd y gofal cyn marwolaeth yn briodol?

Mae archwilwyr meddygol yn ateb y rhain drwy ddarparu craffu annibynnol, gyda 3 elfen:

  1. adolygiad cymesur o gofnodion meddygol perthnasol
  2. rhyngweithio â'r meddyg sy'n cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth (MCCD)
  3. rhyngweithio ag unigolyn sy’n galaru, a rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a chodi pryderon

Gall casgliadau archwilwyr meddygol lywio dysgu i wella gofal i gleifion yn y dyfodol. Mewn lleiafrif o achosion cânt eu cyfeirio at brosesau llywodraethu clinigol sefydledig i'w hadolygu ymhellach.