Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr Proffesiynol Allanol

Working for the Medical Examiner Service for Wales
Gweithio i Wasanaeth Archwilio Meddygol Cymru
Roles within the Medical Examiner Service
Rolau o fewn y Gwasanaeth Archwilio Meddygol
What will the Medical Examiner Service look like
Beth fydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol?

FAQs

Pam mae Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn cael ei greu?

Ers ei gyflwyno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid yw’r broses o ardystio marwolaeth wedi newid yn sylweddol. Pan fydd unigolyn yn marw o achosion naturiol, bydd y meddyg a ymwelodd â’r claf yn ystod ei salwch olaf yn arwyddo tystysgrif feddygol o achos marwolaeth. O ganlyniad, nid oes angen archwiliad allanol o’r corff (oni bai bod y corff i gael ei amlosgi) ac nid oes cyfle i berthnasau fynegi eu pryderon.

Ym mis Ionawr 2000, cafwyd y meddyg teulu Harold Shipman yn euog o lofruddio 15 o’i gleifion ac mae’n debyg ei fod wedi lladd cymaint â 200 o gleifion dros sawl blwyddyn. Roedd Harold Shipman wedi llofnodi tystysgrifau marwolaeth y cleifion a lofruddiodd.

Yn dilyn ei gollfarn, sefydlwyd Ymchwiliad Annibynnol ac amlygodd yr Ymchwiliad y ffaith nad oedd hi’n ddiogel cael un meddyg yn ardystio marwolaeth o achosion naturiol heb graffu annibynnol arno. Gwnaeth yr ymchwiliad yr argymhelliad y byddai cyflwyno Archwilydd Meddygol yn datrys y mater hwn.

Yn 2014, comisiynwyd Ymchwiliad Gosport gan y Llywodraeth i ymchwilio i ddwsinau o farwolaethau yn Ysbyty Coffa Rhyfel Gosport o’r 1980/90au. Pwrpas yr Ymchwiliad oedd darparu gwell dealltwriaeth i deuluoedd o’r hyn ddigwyddodd i’w perthnasau. Datgelodd yr adroddiad wedi hynny ym mis Mehefin 2018 fod 456 o gleifion wedi marw ar ôl cael cyffuriau pwerus i ladd poen yn yr ysbyty.

Mae canfyddiadau'r digwyddiadau yn Gosport yn dangos bod pryderon staff a chleifion yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol i helpu i osgoi niwed a gwella diogelwch cleifion ac ni ddylid eu hanwybyddu.

Arweiniodd y rhain, ac Ymholiadau ac Adroddiadau eraill, o Ganol Swydd Stafford a Bae Morecambe er enghraifft, at alw i gyflwyno Archwilwyr Meddygol er mwyn:

  • Gwella mesurau diogelwch i’r cyhoedd.
  • Sicrhau bod y marwolaethau cywir yn cael eu cyfeirio at grwner.
  • Gwella ansawdd ardystio.
  • Cynnig cyfleoedd i berthnasau ofyn cwestiynau.
  • Bwydo gwybodaeth i’r systemau sicrhau ansawdd.
  • Rhoi cyngor meddygol cyffredinol i grwneriaid.
  • Coladu a rhannu gwybodaeth ystadegol.

Derbyniwyd yr argymhellion hyn gan Lywodraeth y DU ac mae newidiadau i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 wedi caniatáu i Weinidogion Cymru ddatblygu eu rheoliadau eu hunain ar benodi Archwilwyr Meddygol, yn ogystal â rheoli, cynnal ac ariannu'r system.

O ganlyniad i hyn, gofynnwyd i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sefydlu a rhedeg y gwasanaeth hwn ar ran GIG Cymru.

 

Beth fydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol i Gymru yn ei wneud?

Mewn ymateb i'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Crwner a Chyfiawnder 2009, bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn darparu'r swyddogaethau canlynol:

  • Cryfhau mesurau diogelwch i'r cyhoedd, trwy graffu’n gadarn ac annibynnol ar amgylchiadau meddygol ac achos marwolaethau, a sicrhau bod y marwolaethau cywir yn cael eu cyfeirio at grwner
  • Gwella ansawdd ardystiad marwolaeth, trwy ddarparu cyngor arbenigol i feddygon yn seiliedig ar adolygiad o gofnodion iechyd perthnasol
  • Osgoi trallod diangen i'r rhai mewn profedigaeth, a all ddeillio o gwestiynau heb eu hateb am achos ardystiedig y farwolaeth, neu o oedi annisgwyl wrth gofrestru marwolaeth
Sut y bydd y Gwasanaeth Archwilio Marwolaethau yn gweithio?
Bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn cyflawni ei swyddogaethau trwy wneud y canlynol:
 
  • Craffu ar bob marwolaeth na chyfeiriwyd yn uniongyrchol at y Crwner. Bydd hyn yn cynnwys ymgymryd â Cham 1 o'r broses Adolygu Marwolaethau Cyffredinol ar gyfer tua 30,000 o farwolaethau'r flwyddyn.
Gwneir hyn drwy wneud y canlynol:
 
  • Adolygu Nodiadau Achos a thrwy Borth Clinigol Cymru
  • Trafodaethau gyda’r Ymarferydd Cymwys sy’n Bresennol
  • Trafodaethau gyda’r rhai mewn profedigaeth
  • Adolygu pob Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a chyhoeddi Cadarnhad o Achos Marwolaeth i ganiatáu Cofrestru marwolaeth
  • Cyfeirio marwolaethau sy'n gofyn am ymchwiliad Crwner i’r Gwasanaeth Crwner
  • Cyfeirio marwolaethau sy'n gofyn am Adolygiad Marwolaethau Cam 2 i’r Sefydliad Gofal
  • Darparu Dadansoddiad ac Adroddiadau i randdeiliaid perthnasol