Mae Gwasanaethau Caffael yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Cafodd y gwasanaeth ei greu pan gyfunwyd Cyflenwadau Iechyd Cymru a’r timau Caffael a Chyfrifon Taladwy ledled GIG Cymru. Mae’n darparu system caffael hyd dalu gyflawn i bob un o’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau ledled Cymru.
Y timau caffael lleol sy’n cynorthwyo ac yn gwasanaethu cwsmeriaid, ac maent yn gweithio gyda sefydliadau i lywio’r agenda strategol. Mae’r timau lleol yn gweithio ochr yn ochr â thimau Canfod, y Gadwyn Gyflenwi a Chyfrifon Taladwy, sydd oll yn cynorthwyo gwaith ehangach Prynu i Dalu. Mae hyn yn golygu ein bod yn ‘siop un stop’ i gwsmeriaid a chyflenwyr gan fod gennym ‘un llais’ ledled Cymru, ac rydym yn gefnogol iawn o’r agenda gydweithredol. Mae llunio cynllun canfod unigol wedi cymryd peth amser, ond o hyn ymlaen y cynllun hwnnw fydd yn llywio’n gwaith contractio ni.
Mae gan wasanaeth y Gadwyn Gyflenwi dair safle, un ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, un yng Nghwmbrân ac un yn Ninbych. Yn ogystal â hyn, mae nifer o storfeydd ysbyty a chanolfannau derbyn ac anfon ledled Cymru. Mae Gwasanaethau Caffael hefyd yn cefnogi Adran Gynllunio Brys Llywodraeth Cymru.
Mae gan adran Cyfrifon Taladwy sawl safle ymhob rhan o Gymru, ac rydym wrthi’n ceisio rhoi’r gorau i ddefnyddio anfonebau papur yn y system.
Mae tîm e-Alluogi wedi ei greu hefyd sydd â nifer o rolau pwysig wrth gefnogi Gwasanaethau Caffael. Mae hyn yn cynnwys cefnogi staff rheng flaen gyda system Oracle a helpu i annog cyflenwyr i ymuno â’n menter anfonebu electronig. Rydym yn mynnu bod pob un o gyflenwyr GIG Cymru yn gallu masnachu’n gwbl electronig, ac mae’r tîm hwn yn cynnig cymorth gyda hyn. Mae ein cwsmeriaid yn bwysig iawn inni ac mae ein systemau ansawdd, sef yr EQFM, yn sail i hyn. Mae’r model hwn yn cefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud a’r systemau sydd eisoes yn eu lle, ynghyd â’r systemau sydd wrthi’n cael eu rhoi ar waith yng Ngwasanaethau Caffael.
Mae Gwasanaethau Caffael wedi llunio cynllun busnes sy’n cefnogi’r agenda ehangach ac sydd â nifer o themâu strategol allweddol. Mae gwariant ar y gyllideb nad yw ar gyfer cyflogau wedi gostwng yn sylweddol, ac mae’n adlewyrchu anghenion Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ynghyd â’r cyfleoedd o gynlluniau ehangach i gydweithio. Mae’r effaith ar y Gadwyn Gyflenwi o dan y chwyddwydr hefyd, ac mae gwasanaeth cynhwysfawr yn rhan o’r hyn sy’n cael ei ddatblygu. Mae canolbwyntio ar y cwsmer yn parhau i fod yn bwysig iawn ac mae pawb sy’n gweithio i Wasanaethau Caffael yn gwybod hyn. I’r perwyl hwn, mae datblygu ‘llais i’r cwsmer’ wedi bod yn gam pwysig ymlaen. Mae moderneiddio adran Cyfrifon Taladwy yn ddatblygiad pwysig arall, sy’n golygu y bydd angen adolygu sut rydym y gweithredu a’r nifer o safleoedd a ddefnyddir yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gan fod Gwasanaethau Caffael yn rhan o’r Bartneriaeth Cydwasanaethau, gall fanteisio ar gefnogaeth gorfforaethol ehangach mewn meysydd pwysig fel Cyllid ac Adnoddau Dynol. Mae datblygu’r strategaeth TG ledled y sefydliad hefyd yn hanfodol i bob un o’r busnesau, ac mae hyn bellach ar y gweill.