Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae Charla yn gyfreithwraig dan hyfforddiant a enillodd ei gradd LLB yn y gyfraith a'i gradd LLM yn y gyfraith wedi'i chyfuno ag Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru. Ymunodd â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2023 fel paragyfreithiwr, gan sicrhau contract hyfforddi yn fuan wedyn.
Cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, cafodd Charla brofiad sylweddol fel gweithiwr cyfreithiol cynorthwyol drwy swyddi cyfreithiol blaenorol yn ogystal â gwaith pro bono yn ystod ei hastudiaethau. Mae ganddi hefyd gefndir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ar ôl cefnogi pobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth ac anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.
Ers ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, mae Charla wedi gweithio ar ystod eang o faterion, gan gynnwys materion cymhleth yn ymwneud â gofal eilaidd, cwestau yn ymwneud ag iechyd meddwl a charchardai, hawliadau anaf personol gwerth uchel, ac achosion esgeulustod clinigol sy'n deillio o ofal sylfaenol ac eilaidd.