Neidio i'r prif gynnwy

Heather Grimbaldeston

Heather Grimbaldeston

Bu Heather yn gweithio mewn practis preifat am 17 mlynedd cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2017. Astudiodd Heather y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerhirfryn a chwblhaodd Gwrs Ymarfer y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith, Caer. Enillodd gymhwyster cyfreithiwr yn 2002.

Mae Heather yn arwain y tîm Esgeuluster Clinigol Gofal Sylfaenol sy'n rheoli pob agwedd ar hawliadau esgeuluster clinigol a gwmpesir gan y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol o’r cyfnod cyn-weithredu i’r treial a chostau. Mae gan Heather brofiad helaeth o weithredu ar ran darparwyr gofal sylfaenol. Cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, roedd Heather yn bartner mewn tîm gofal iechyd diffynyddion mewn cwmni cyfreithiol yn Llundain a oedd yn gweithredu ar ran meddygon teulu, staff practis a darparwyr gofal sylfaenol eraill mewn gwahanol leoliadau.  Yn y rôl hon, bu Heather yn rheoli llinell gymorth cyngor cyfreithiol 24 awr i feddygon a deintyddion. 

Yn ogystal, mae Heather wedi amddiffyn ystod eang o hawliadau esgeuluster meddygol cymhleth, ac mae’n cynghori cleientiaid ynghylch ymchwiliadau i ddigwyddiadau difrifol, cwynion, materion yn ymwneud â’r Ombwdsmon a rheoli risg.

Pan nad yw hi yn y swyddfa, mae Heather yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored gyda'i theulu a'i ffrindiau a cherdded a beicio yng nghefn gwlad Cymru. Mae Heather yn dysgu’r Gymraeg a, phan fydd amser ganddi, bydd yn adnewyddu ei thŷ.

 

“unigolyn uchel ei pharch mewn cylchoedd esgeuluster clinigol; mae hi wedi gweithredu ar ystod o achosion yn ddiweddar, ac mae hi'r un mor fedrus wrth gynrychioli sefydliadau yswiriant meddygol mawr a meddygon teulu unigol.”

Ymarferydd Nodedig, Chambers & Partners 2014

 

“bob amser yn barod i gynorthwyo”

Legal 500 2014

 

yn adnabyddus am weithredu “mewn ystod o hawliadau esgeuluster clinigol gan gynnwys y rhai sy'n deillio o ddiagnosis oncolegol a materion pediatreg ac orthopedig."

Unigolyn Allweddol, Chambers & Partners 2013