Enillodd Charlotte gymhwyster cyfreithiwr yn 2016. Enillodd Charlotte ei gradd yn y gyfraith a chwblhau ei chwrs ymarfer cyfreithiol (rhagoriaeth) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymunodd Charlotte â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2013 yn baragyfreithiwr yn yr adran esgeuluster clinigol tra’n astudio'r cwrs ymarfer cyfreithiol yn rhan amser. Aeth Charlotte ymlaen i ymgymryd â'i chontract hyfforddi gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Ar ôl ennill cymhwyster cyfreithiwr, ymunodd Charlotte â Thîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Caerdydd a'r Fro gan arbenigo mewn hawliadau esgeuluster clinigol, materion costau a chynghori ar bryderon a godwyd trwy'r Rheoliadau Gweithio i Wella.
Yn 2019 ymunodd Charlotte â'r Tîm Esgeuluster Clinigol Gofal Sylfaenol ac mae'n arbenigo mewn rheoli pob agwedd ar hawliadau esgeuluster clinigol a gyflwynir yn erbyn darparwyr gofal sylfaenol. Mae Charlotte hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi i Fyrddau Iechyd a darparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru yn rheolaidd.
Y tu allan i'r gwaith, mae Charlotte yn mwynhau bale a dawns gyfoes. Mae Charlotte hefyd yn hoff o anifeiliaid ac yn cerdded cŵn yn wirfoddol i Gartref Cŵn Caerdydd.
LinkedIn: Gweld Proffil