Neidio i'r prif gynnwy

Alison Walcot

Mae Alison wedi gweithio fel rhan o'r Tîm Rheoli Esgeuluster Clinigol yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ers dros 20 mlynedd . Mae ganddi 30 mlynedd o brofiad o reoli hawliadau esgeuluster clinigol ar gyfer GIG Gymru.

Mae ei rôl bresennol yn cynnwys gweithio'n strategol ar draws yr adran esgeuluster clinigol gan edrych ar sut y gallwn wella'r ffordd y rheolir hawliadau, gyda ffocws ar ddatrysiad cynnar a lleihau costau.   Prif ffocws Alison yw edrych ar reoli:

  • Hawliadau Gwerth Isel
  • Hawliadau Gwerth Uchel
  • Costau

Mae profiad helaeth Alison mewn rheoli hawliadau, mentora a hyfforddi staff yn caniatáu iddi gyflwyno ffyrdd arloesol o ddelio â hawliadau er mwyn cyflawni'r canlyniad gorau i bawb, cleifion sydd wedi'u hanafu, eu teuluoedd, clinigwyr a GIG Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae Alison yn gyfrifol am fonitro'r gwasanaethau a ddarperir gan arbenigwyr a bargyfreithwyr a gyfarwyddwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, er mwyn sicrhau bod cyngor o ansawdd rhagorol yn cael ei ddarparu bob amser gan gadw mewn cof y gost i GIG Cymru.