Astudiodd Claire LLB yn y Gyfraith a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 2013 cyn cwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol gyda rhagoriaeth yn 2015.
O 2013 ymlaen bu’n gweithio mewn cwmni anafiadau personol Hawlwyr ac wedi arbenigo mewn ymgyfreitha. Cymhwysodd Claire fel Cyfreithiwr yn 2017.
Mae Claire bob amser wedi bod â diddordeb mewn cyfraith feddygol ac ymunodd â’r Gwasanaeth Cyfreithiol a Risg ym mis Chwefror 2020 fel Cyfreithiwr yn yr adran Esgeulustod Clinigol. Mae hi bellach yn rhannu ei hamser rhwng Esgeulustod Clinigol a gwaith Ymchwiliad Cyhoeddus ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi Cyrff Iechyd Cymru sy’n ymwneud ag Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU.
Mae ganddi lwyth achosion amrywiol o esgeulustod clinigol gan gynnwys materion cymhleth a gwerth uchel, a chamau gweithredu grŵp. Mae Claire hefyd yn cynnig cyngor ynglŷn â’r weithdrefn Gweithio i Wella ac yn darparu hyfforddiant i staff y Bwrdd Iechyd.
Yn ei hamser hamdden, mae Claire yn mwynhau darllen a mynd i gyngherddau.