Cymhwysodd Natalie fel Cymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (FCILEx) ym mis Chwefror 2017 ac enillodd hawliau ymarfer yn 2021, gan ennill teitl Cyfreithiwr CILEX.
Enillodd Natalie ei Gradd LLB yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg. Aeth ymlaen wedyn i astudio’r Diploma Graddedig Trac Cyflym gyda Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn 2021, wrth weithio gartref, cwblhaodd Natalie gwrs Hawl i Ymddangos yn y Llys Ymgyfreitha Sifil CILEX gyda Barbri Altior.
Cyn ymuno â ‘r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, bu Natalie yn gweithio yn swyddfeydd busnes gweithgynhyrchu lleol. Yn ystod y cyfnod hwn, ochr yn ochr â’i dyletswyddau swyddfa ‘arferol’, cymerodd ran mewn llawer o brosiectau i’r cwmni, gan gynnwys cynorthwyo i ddatblygu gwefan ac Ap newydd, datblygu llawer o ymgyrchoedd marchnata a chynorthwyo i gynnal gwaith ymchwil a datblygu pecynnau newydd ar gyfer y cynhyrchion.
Roedd rôl gyfreithiol gyntaf Natalie gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, lle dechreuodd weithio yn yr adran Anafiadau Personol fel paragyfreithiwr. Yn ystod y cyfnod hwn yn ei gyrfa, cyfrannodd Natalie at lawer o brosiectau gan gynnwys y 'Diwrnodau Anafiadau Personol' niferus (a llwyddiannus) a dadansoddi'r arbedion posibl i'w gwneud cyn cyflwyno costau adferadwy sefydlog mewn hawliadau EL/PL gwerth isel.
Trosglwyddodd Natalie i'r adran esgeulustod clinigol yn fuan cyn cymhwyso. Mae hi bellach yn delio ag amrywiaeth eang o hawliadau esgeulustod clinigol, sy'n cynnwys y rhai sy'n deillio o oedi wrth wneud diagnosis o ganser, rheolaeth orthopedig a materion obstetreg, gan gynnwys marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol. Mae Natalie hefyd yn cynnig cyngor mewn perthynas â Gweithio i Wella. Mae gan Natalie ddiddordeb arbennig mewn delio â chostau, gan gynnwys cyllidebu ar gyfer cynadleddau rheoli achosion a dadansoddi biliau ar ddiwedd yr hawliad. Mae Natalie yn awyddus i weithio ar y cynllun costau sefydlog y gellir eu hadennill ar gyfer hawliadau esgeulustod clinigol gwerth isel, pan gaiff ei roi ar waith.
Mae Natalie wedi dechrau gwirfoddoli gyda Sefydliad CILEX yn ddiweddar, gan asesu ceisiadau gan y rhai sy’n gwneud cais am gymorth cyllid ar gyfer eu gyrfa CILEX. Mae hi hefyd yn mwynhau pobi a bydd yn aml yn cyfrannu at arwerthiannau pobi elusennol. Pan nad yw'n pobi, gellir dod o hyd i Natalie yn teithio o amgylch y byd ar long neu'n cymryd cymaint o seibiannau byr ag y gall.