Darganfyddwch drosoch eich hun sut beth yw gweithio i dîm cyfreithiol mewnol GIG Cymru.
Cymerwch ran yn ein cynllun gwyliau profiad gwaith a byddwch yn dod adref gyda darlun clir o'n diwylliant a'n gwerthoedd, yn ogystal â dealltwriaeth dda o waith dyddiol ein timau amrywiol yma yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.
Yn ogystal â chyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol, byddwch yn cael cyfle i siarad â pharagyfreithwyr a hyfforddeion presennol, yn ogystal â rhai o'n cydweithwyr uwch, gwella eich dealltwriaeth o'n union beth rydym yn ei wneud a chyfeiriad ein gwaith. Byddwch yn datblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y gyfraith yn y dyfodol, a dysgu rhai awgrymiadau ymarferol ar wneud cais am swyddi yn y dyfodol gyda ni.
Gwybodaeth Allweddol
Bydd y Cynllun yn digwydd dros gyfnod o bythefnos tua diwedd mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf (dyddiadau penodol i'w cadarnhau ar ein gwefan ar 3 Mawrth 2026). Cynhelir y digwyddiadau’n ddyddiol rhwng 10am a 4pm.
Gallwch wneud cais am y naill wythnos neu'r llall, neu'r ddwy wythnos, ond byddai angen i chi ymrwymo i'r wythnos gyfan dan sylw a bod yn bresennol am bob un diwrnod.
Bydd uchafswm o 10 myfyriwr yr wythnos.
Rhaglen wyneb yn wyneb yn unig yw'r Cynllun ac mae wedi'i lleoli yn ein swyddfa yn Nhŷ'r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd.
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr Prifysgol yn eu blwyddyn cyn-olaf a'u blwyddyn olaf (y gyfraith neu arall), graddedigion, a'r rhai sy'n ystyried newid gyrfa.
Sut i wneud cais
Glleir gwneud ceisiadau drwy ffurflen ar-lein a fydd yn cael ei phostio ar y dudalen we hon o 3 Mawrth 2026 a bydd ein Tîm Hyfforddi a Datblygu yn ei hadolygu. Yna efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol o bell (gan Microsoft Teams).
Rhaglen
Efallai y bydd y rhaglen yn newid ychydig ar gyfer 2026, mewn perthynas a’r dyddiau o sesiynau penodol, ond bydd yn debyg i raglen 2025 isod.
WYTHNOS 1
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
WYTHNOS 2
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
*Gall yr union amserlen newid