Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Gwaith

Diwrnod Mewnwelediad Rhithwir Cyfreithiol a Risg

 

Darganfyddwch o lygad y ffynnon sut beth yw gweithio i dîm cyfreithiol mewnol GIG Cymru.

Bydd ein diwrnodau mewnwelediad yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, cyflwyniadau a chyfleoedd rhwydweithio.

Byddwch yn cael darlun clir o'n diwylliant a'n gwerthoedd, ynghyd â dealltwriaeth dda o waith ein timau o ddydd i ddydd yma yng Nghyfreithiol a Risg. Byddwch chi'n cael cyfle i siarad â hyfforddeion a pharagyfreithwyr cyfredol yn ogystal â rhai o'n staff uwch, datblygu eich dealltwriaeth o'r hyn rydym ni’n ei wneud a’n hamcanion ar gyfer y dyfodol, meithrin sgiliau gwerthfawr a fydd yn help wrth sefydlu gyrfa yn y gyfraith, a chael awgrymiadau ymarferol ar ymgeisio am swyddi gyda ni yn y dyfodol.

Bydd sesiynau ymneilltuo mewn Esgeulustod Clinigol, Anaf Personol, Cyflogaeth, Masnachol a'r Llys Gwarchod.

Bydd pob cyfranogwr yn derbyn tystysgrif bersonol ar ôl cwblhau'r diwrnod mewnwelediad.

Mae ein diwrnodau mewnwelediad rhithwir yn agored i bob myfyriwr ysgol a Phrifysgol o gefndir y gyfraith neu heb fod yn y gyfraith ac nid oes angen profiad gwaith blaenorol i gymryd rhan.

Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau yn y dyfodol yn ddiweddarach yn 2022. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhain trwy ein cyfryngau cymdeithasol.

Danfonwch unrhyw gwestiynnau i Administration.NWSSPLRS@wales.nhs.uk