Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Rhaid i bob meddyg, deintydd ac optegydd gael gwiriad DBS Ychwanegol pan fyddant yn gwneud cais am gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr yng Nghymru. Nid oes rhaid i'r ymgeisydd dalu ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Bydd rhaid i ymgeiswyr sydd wedi tanysgrifio i wasanaeth diweddaru’r DBS ddarparu eu tystysgrif DBS wreiddiol ddiweddaraf ynghyd â dogfennau ategol i brofi pwy ydynt (fel y manylir isod). Bydd gofyn i chi roi’ch cydsyniad ysgrifenedig i ganiatáu i’r DBS wirio’ch statws pan fyddwch yn mynychu’r cyfarfod wyneb yn wyneb.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i danysgrifio i Wasanaeth Diweddaru’r DBS yn: https://www.gov.uk/dbs-update-service
Llenwi Ffurflen Gais Datgelu’r DBS (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt)
Sylwch ar y pwyntiau pwysig canlynol wrth lenwi'ch ffurflen gais Datgelu DBS:
Os oes angen i chi gael unrhyw gyngor pellach ar lenwi'r ffurflen gais Datgelu DBS yna cysylltwch â swyddfa briodol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel a ganlyn: -
Trwy e-bostio contact.supplist@wales.nhs.uk
Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol - Ffoniwch: 01495 332093/2124/2130 neu e-bostiwch contact.supplist@wales.nhs.uk
Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol - Ffoniwch: 01792 607421/7438 neu e-bostiwchdentalperformerslist@wales.nhs.uk
Optegwyr neu Ymarferwyr Meddygol Offthalmig - Ffoniwch: 01792 607421/7438 neu e-bostiwch ophthalmic.performerslist@wales.nhs.uk
Rhaid i chi ddarparu 3 dogfen i gyd; sef 1 ddogfen o Grŵp 1 a 2 ddogfen bellach gan Grŵp 1, 2a neu 2b; rhaid i un ohonynt gadarnhau'ch cyfeiriad cyfredol. Os na allwch ddarparu’r dogfennau hyn, cysylltwch â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gael cyngor.