Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

Primary care

Rydym yn darparu nifer fawr o wasanaethau ar ran Byrddau Iechyd ledled Cymru, gan gynnwys Contractau Gwasanaethau Gofal Sylfaenol; Taliadau/Ôl-daliadau; Gwasanaethau Cofrestru Cleifion; Dosbarthu rhybuddion ymhlith Meddygon, Deintyddion, Optegwyr a Fferyllwyr y GIG.
 

Pwy ydym ni?

Mae Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn adran ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.  Mae gennym dros 300 o staff ar ein safleoedd yng Nghaerdydd, Pont-y-pŵl, Llanelwy ac Abertawe.

Beth ydym ni'n ei wneud?

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r canlynol:

  • Bod meddygon, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn cael eu hychwanegu’n ddiogel at Restri Perfformwyr Gofal Sylfaenol Cymru, a’u dileu oddi arnynt pan fo angen;

  • Ein bod yn darparu cyngor amserol a chywir wrth ddelio â phroblemau perfformiad yn ymwneud ag effeithlonrwydd a thwyll ac â phroblemau addasrwydd neu gontract yn ymwneud â darparu gwasanaethau;

  • Bod y taliadau blynyddol i ddarparwyr gwasanaeth sy’n werth £1,182 miliwn yn cael eu gwneud yn unol â chyfarwyddiadau a rheoliadau statudol ar gyfer contractwyr gofal sylfaenol;

  • Bod rhybuddion iechyd yn cael eu dosbarthu’n ddiogel ac yn amserol;

  • Bod deunydd ysgrifennu a ffurflenni ar gyfer contractwyr gofal sylfaenol yn cael eu darparu’n ddiogel ac yn amserol;

  • Bod gwasanaethau rheoli iechyd a diogelwch, rheoli diogelwch a risg, archifo, cludo, post mewnol ac allanol a phorthora yn cael eu darparu;

  • Bod cofnodion meddygol yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel, yn amserol ac yn gywir rhwng practisiau meddyg teulu;

  • Bod gwybodaeth amserol a chywir yn cael eu casglu o bob presgripsiwn a roddir yn GIG Cymru; Mae’r data hyn yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint y dylid ei ad-dalu i fferyllfeydd cymunedol, contractwyr offer, meddygon fferyllol a meddygon teulu sy’n rhoi meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol ar bresgripsiwn gan y GIG.

  • Bod gwybodaeth reoli yn cael ei darparu er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer meddyginiaethau yng Nghymru, ac er mwyn eu cynllunio a’u rheoli.

Datganiad Cenhadaeth

I alluogi’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus  o safon ryngwladol yng Nghymru trwy ganolbwyntio ar y cwsmer, cydweithredu ac arloesi.