Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Caffael ar Sail Tystiolaeth

Mae’r Bwrdd Caffael Seiliedig ar Dystiolaeth (EBPB) yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o fewn GIG Cymru a chyrff ymchwil Cymru, sy’n gwneud argymhellion a chanllawiau ar gyfer caffael technolegau meddygol ar sail gwerth a thystiolaeth ar gyfer GIG Cymru, ac yn cynghori Pwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau a Grŵp Effeithlonrwydd, Gwerth Gofal Iechyd a Gwella Llywodraeth Cymru ar yr un pryd.

Mae’r Bwrdd, a gafodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd 2015, yn cynorthwyo gyda’r agenda rhesymoli a safoni yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, ac mae athroniaeth “Unwaith i Gymru” yn sail iddo. Bydd hefyd yn asesu a ddylai GIG Cymru gael gwared ar ddyfeisiau/technolegau os bernir eu bod yn amhriodol neu’n wastraffus.

Mae’r Bwrdd Caffael Seiliedig ar Dystiolaeth yn cael ei gadeirio gan Dr Stephen Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ac Ymgynghorydd Anestheteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae ei aelodau’n dod o bob rhan o GIG Cymru a’r byd academaidd. Mae’r Bwrdd yn cael ei letya gan PCGC (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) sydd hefyd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp.

Mae papurau ac adolygiadau a gomisiynwyd gan y Bwrdd a barn y Bwrdd ar gael:

 

Bwriad yr is-dudalennau yw rhoi trosolwg o ymchwil y Bwrdd Caffael Seiliedig ar Dystiolaeth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r diwydiant dyfeisiau meddygol yn unig. Mae’r Labordy Profi Dyfeisiau  Llawfeddygol yn gwbl ymrwymedig i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 [Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011]. Oherwydd natur ymchwil y gweithgareddau hyn a'r gynulleidfa arfaethedig, ni chaiff yr is-dudalennau eu cyfieithu. Fodd bynnag, bydd y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol bob amser yn darparu deunydd a gwasanaethau yn Gymraeg ar gais.