Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

 

Mae’r Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol (SMTL) yn rhan o GIG Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Ein gwasanaeth craidd yw profi dyfeisiau meddygol a darparu gwasanaethau technegol ar gyfer dyfeisiau meddygol i GIG Cymru, sy’n galluogi Gwasanaethau Caffael ac eraill yn y GIG i brynu ar sail tystiolaeth. Gweler ein tudalennau Gwasanaethau GIG Cymru am yr ystod o wasanaethau a gynigiwn i gydweithwyr yn y GIG.

Er mwyn bodloni ymrwymiadau ariannol, mae’r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol hefyd yn darparu gwasanaethau profi masnachol a sicrwydd technegol i Wasanaethau Iechyd y DU a’r diwydiant dyfeisiau meddygol rhyngwladol.

Mae gan y Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol, sydd â dros 50 mlynedd o brofiad, enw da yn rhyngwladol am ddarparu gwasanaethau gwyddonol a thechnegol annibynnol i'r GIG a'r diwydiant dyfeisiau meddygol. Mae ein labordai yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr a Pharc Imperial, Casnewydd yn cynnig cyfleusterau profi annibynnol sy’n cynnwys ystod eang o wasanaethau profi ffisegol, biolegol ac amgylcheddol ar draws y sector dyfeisiau meddygol.

Rydyn ni’n gweithredu system ansawdd achrededig Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig i ISO 17025, sy'n sicrhau bod adroddiadau eich profion yn gywir ac yn ddibynadwy. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau profi achrededig sy'n cynnwys safonau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â nifer o ddulliau profi sydd wedi'u datblygu'n fewnol.

Mae ein rhestr o gleientiaid masnachol yn amrywiol ac yn cynnwys cwmnïau newydd, busnesau bach a chanolig, cwmnïau rhyngwladol, asiantaethau’r llywodraeth fel yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), Corff Ymchwiliadau Diogelwch y Gwasanaethau Iechyd (HSSIB), Cadwyn Gyflenwi’r GIG, Ymddiriedolaethau’r GIG, Heddluoedd, Llysoedd Crwneriaid a Chynrychiolwyr Cyfreithiol.

Gweler y tudalennau Gwasanaethau am fanylion yr ystod o brofion y mae ein labordy yn eu darparu.