Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau

Mae’r Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol yn cynnig gwasanaeth gwyddonol a thechnegol amrywiol i GIG Cymru a chleientiaid masnachol. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:

 

  • Gwasanaethau Cynghori: Mae ein Hadran Ymchwil a Datblygu yn darparu gwasanaethau cynghori gwyddonol sy’n amrywio o sicrwydd technegol a rheoleiddiol dogfennau i weithgareddau asesu technoleg iechyd (adolygu tystiolaeth, economeg iechyd, dadansoddi ystadegol, mynediad i'r farchnad).
  • Gwybodaeth Cleient: Gwybodaeth bellach yn ymwneud â chyllid a chyflwyno sampl.
  • Ymchwilio i Ddigwyddiad: Ariennir y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol gan Lywodraeth Cymru i weithredu fel canolfan adrodd am ddigwyddiadau niweidiol â dyfeisiau meddygol GIG Cymru. Mae ein harbenigwyr technegol yn ymchwilio i amrywiaeth o ddyfeisiau nad ydynt yn rhai electro-feddygol.
  • Gwasanaethau GIG Cymru: Mae arbenigwyr pwnc yn y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn sawl fforwm dyfeisiau meddygol ac yn rhan o ystod o weithgorau a byrddau. Un o swyddogaethau allweddol y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol yw asesu gofynion technegol a rheoleiddiol dyfeisiau meddygol, a darparu gwasanaethau profi ar gyfer Gwasanaethau Caffael GIG Cymru.
  • Sicrwydd Ansawdd: Mae ein hadran Sicrhau Ansawdd annibynnol yn goruchwylio pob gweithgaredd sy'n ymwneud â chyfleusterau profi. Yn ogystal, mae ein harbenigwyr Sicrhau Ansawdd yn cynnig gwasanaeth sicrhau ansawdd masnachol cynhwysfawr, o ymgynghori a chynghori i gynnal archwiliadau o weithgynhyrchwyr dyfeisiau meddygol.
  • Gwasanaethau profi: Mae adrannau Profi Biolegol a Chorfforol pwrpasol yn cynnig ystod o wasanaethau profi achrededig sy'n cwmpasu safonau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â nifer o ddulliau profi sydd wedi'u datblygu'n fewnol.
  • Asesiadau Defnyddioldeb: Mae'r Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol yn cynnig y gallu i ddatblygu, dylunio a chynnal asesiadau defnyddioldeb. Mae hyn yn adeiladu ar ein hanes llwyddiannus o astudiaethau defnyddioldeb dyfeisiau meddygol.

 

Bwriad yr is-dudalennau yw rhoi trosolwg o wasanaethau'r Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r diwydiant dyfeisiau meddygol yn unig. Mae’r Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol yn gwbl ymrwymedig i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 [Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011]. Oherwydd natur ymchwil y gweithgareddau hyn a'r gynulleidfa arfaethedig, ni chaiff yr is-dudalennau eu cyfieithu. Fodd bynnag, bydd y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol bob amser yn darparu deunydd a gwasanaethau yn Gymraeg ar gais.