Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ar y cyd â Llywodraeth Cymru wedi datblygu dangosfwrdd digidol sy’n disgrifio argaeledd, gweithgarwch a chanlyniadau gwasanaethau ychwanegol cenedlaethol mewn fferylliaeth gymunedol.
Mae'r Dangosfwrdd Gwasanaethau Estynedig Fferylliaeth yn darparu delweddiadau data o wybodaeth a gafwyd o hawliadau am daliad dros gyfnod treigl o 24 mis. Mae data ar gael ar lefel fferylliaeth, clwstwr a Bwrdd Iechyd a bydd yn cael eu hadnewyddu ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis.
Mae ystadegau'r Gwasanaethau Estynedig a gyhoeddir yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd o hawliadau a gyflwynwyd i PCGC i'w talu yn unol â darpariaethau Cyfarwyddiadau Gwasanaethau Fferyllol (Gwasanaethau Uwch ac Ychwanegol) (Cymru).
Andrew Evans (Prif Swyddog Fferyllol, Llywodraeth Cymru);
“Dylai fferyllfeydd cymunedol fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal y GIG. Mae mwy o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru nag erioed o'r blaen yn darparu gwasanaethau clinigol. Bydd y diwygiadau cytundebol yr ydym wedi cytuno arnynt yn ddiweddar yn golygu y gall pob fferyllfa ddarparu ystod lawn o wasanaethau clinigol o fis Ebrill ymlaen, gan wella mynediad i gleifion a thynnu pwysau oddi ar rannau eraill o’r GIG.
Mae galluogi fferyllwyr a thimau fferyllol i fyfyrio ar eu canlyniadau gwasanaeth eu hunain a chanlyniadau gwasanaeth fferyllfeydd eraill yn elfen hanfodol o wella ansawdd gofal. Bydd mynediad rheolaidd at y data hynny i fferyllwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion yn hwyluso dull a yrrir gan ddata go iawn, gan arwain at fferyllfeydd cymunedol sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i ddinasyddion Cymru.”
Andrew Evans (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru);
“Mae clystyrau’n ganolog i’r cynllun ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol cynaliadwy, ac mae’n hanfodol eu bod yn gallu cael mynediad hawdd at wybodaeth a all lywio cynllunio gwasanaethau a helpu i fonitro perfformiad. Mae'r Dangosfwrdd Gwasanaethau Fferyllol wedi'i ddylunio i wneud yn union hynny. Mae’n gam pwysig i sicrhau bod data gofal sylfaenol a gedwir o fewn PCGC ar gael mewn ffordd sy’n hawdd eu defnyddio i’r rhai sy’n cynllunio a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau.
Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu datblygu’r offeryn hwn i gefnogi’r diwygiadau cytundebol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer fferyllfeydd, ac mae’n gam sylweddol yn rhaglen barhaus PCGC o gymorth gwybodaeth ar gyfer pob proffesiwn ar gontract gofal sylfaenol.”
Mae’r Dangosfwrdd Gwasanaethau Estynedig Fferylliaeth yn cael ei gynnal trwy wefan Gwasanaethau Gofal Sylfaenol. Gellir cael mynediad at y wefan drwy’r ddolen ganlynol yma.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y Dangosfwrdd Gwasanaethau Estynedig Fferylliaeth, gallwch gysylltu â’r tîm Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yma.