Cymeradwyodd Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ddatblygiad yr Adolygiad Gwasanaeth Unedau Prosesu Golch GIG Cymru yn ei gyfarfod ar 17 Mai 2016. Amcan y prosiect oedd adolygu unedau prosesu golch presennol GIG Cymru yn erbyn canllawiau arfer gorau’r diwydiant. Gwnaeth yr adolygiad helpu i geisio adnabod unrhyw fylchau yn y gwasanaeth golch presennol sy’n rhwystro cyflawni safon newydd Llywodraeth Cymru – BS EN 14065 June 2016.
Cynhaliwyd y cyfarfod Grŵp Prosiect cyntaf ar 6 Rhagfyr 2016, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau a PCGC.
Nid yw’r un o’r gwasanaethau golchi presennol yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig gofynnol.
BS EN 14065
Buddsoddiad cyfalaf o £13.8m
Amrywiadau ar draws Unedau Prosesu Golch
Y rhwystrau rhag gwella