Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Gwasanaeth Golch Cymru Gyfan

Man doing hospital laundry

Cefndir

Cymeradwyodd Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ddatblygiad yr Adolygiad Gwasanaeth Unedau Prosesu Golch GIG Cymru yn ei gyfarfod ar 17 Mai 2016. Amcan y prosiect oedd adolygu unedau prosesu golch presennol GIG Cymru yn erbyn canllawiau arfer gorau’r diwydiant. Gwnaeth yr adolygiad helpu i geisio adnabod unrhyw fylchau yn y gwasanaeth golch presennol sy’n rhwystro cyflawni safon newydd Llywodraeth Cymru – BS EN 14065 June 2016.

Cynhaliwyd y cyfarfod Grŵp Prosiect cyntaf ar 6 Rhagfyr 2016, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau a PCGC.

 

Trefniadau Presennol

  • 5 Uned Prosesu Golch a reolir gan Fyrddau Iechyd
  • 32 miliwn o eitemau’n cael eu prosesu bob blwyddyn (gan gynnwys microffibr)
  • Cost prosesu uniongyrchol o £10.1 bob blwyddyn
  • Cost gyfartalog fesul eitem o £0.31  (arfer gorau'r diwydiant yw £0.25)
  • 102 o eitemau fesul awr gweithiwr (Arfer gorau'r diwydiant yw 160-180)

Nid yw’r un o’r gwasanaethau golchi presennol yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig gofynnol.

 

Yr Achos dros Newid

BS EN 14065

  • (Safon Brydeinig, Safon Ewropeaidd) - Cyflwyno safonau newydd ar gyfer dihalogi llieiniau.

Buddsoddiad cyfalaf o £13.8m

  • Cydymffurfio â BS EN 14065; gofynion statudol; gwaith cynnal a chadw sydd eto i’w gwblhau.

Amrywiadau ar draws Unedau Prosesu Golch

  • Ffyrdd gwahanol o weithio
  • cynhyrchiant
  • cost fesul uned.

Y rhwystrau rhag gwella

  • cyflwr y cyfleusterau presennol
  • cydweithredu cyfyngedig hyd yn hyn
  • diffyg Cyllid Cyfalaf i ddiweddaru pob Uned Prosesu Golch.