O dan y gofynion Llywodraethu ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, mae'n ofynnol i fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru adrodd ar ddigwyddiadau diogelwch cleifion priodol.
Yn dilyn datgomisiynu'r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu (NRLS) ar 31 Mawrth 2022, bydd System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru (Datix Cymru) ar gael o 1 Ebrill 2022 i fferyllfeydd cymunedol annibynnol, fel olynydd i NRLS, i nodi digwyddiadau diogelwch cleifion i'r Bwrdd Iechyd perthnasol yn GIG Cymru.
Mae System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru (Datix Cymru) yn darparu datrysiad cyson yn y Cwmwl ar gyfer adrodd ar ddigwyddiadau ar draws GIG Cymru ac fe'i lansiwyd ar 1 Ebrill 2021. Cefnogir y System gan Dîm Canolog sydd wedi'i leoli ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) a bydd yn caniatáu i fanylion am ddigwyddiadau diogelwch cleifion gael eu cipio ac i'r data gael eu dadansoddi yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar y dull diwygiedig hwn o adrodd ar ddigwyddiadau, gyda chefnogaeth Tîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru sydd wedi'i leoli ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).
Digwyddiad diogelwch cleifion yw:
“unrhyw ddigwyddiad anfwriadol neu annisgwyl a allai fod wedi neu a wnaeth arwain at niwed i un neu fwy o gleifion sy'n derbyn gofal iechyd a ariennir gan y GIG”.
Diffinnir damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd, y cyfeirir ato gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (NPSA) fel digwyddiad diogelwch cleifion sydd wedi'i atal, fel a ganlyn:
“unrhyw ddigwyddiad annisgwyl neu anfwriadol a gafodd ei atal, gan beidio ag arwain at niwed i un neu fwy o gleifion sy'n derbyn gofal iechyd a ariennir gan y GIG. Gallai'r digwyddiad fod wedi cael ei atal gan weithred, unigolyn, amseru, neu drwy siawns neu lwc.”
Gall contractwyr ddefnyddio eu ffurflenni adrodd eu hunain i gefnogi adroddiadau System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru (Datix Cymru) ac ar gyfer gwybodaeth a ddylai aros yng nghofnodion digwyddiadau diogelwch cleifion y fferyllfa.
Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau diogelwch cleifion yn cynnwys:
Bydd y dolenni canlynol yn eich cyfeirio at y Bwrdd Iechyd perthnasol er mwyn cwblhau ffurflen ddigwyddiadau:
Mae Tîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru wedi'i leoli ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ac yn lletya’r wefan hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses adrodd neu unrhyw faterion technegol, cysylltwch â:
OnceForWales.CMS@wales.nhs.uk – caiff y mewnflwch hwn ei fonitro rhwng dydd Llun a dydd Gwener 0900-1700.
Mae canllaw byr i ddefnyddwyr (PDF, 526KB) hefyd ar gael i gynorthwyo gyda'r broses adrodd.
Byddem yn falch o dderbyn unrhyw adborth ar y broses adrodd i lywio gwelliannau. Anfonwch e-bost at Dîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru: