Mae IFS Cymru yn dilyn model a brofwyd trwy gyflwyno PROMPT Cymru yn genedlaethol yn llwyddiannus: wedi'i gydlynu'n ganolog, wedi'i gyflwyno'n lleol a'i hwyluso'n amlbroffesiynol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chynnal gan Dîm Cenedlaethol IFS Cymru, wedi'i hariannu gan Gronfa Risg Cymru, ac wedi'i chyflwyno'n lleol o fewn pob Bwrdd Iechyd gan dimau staff amlbroffesiynol hyfforddedig sy'n cynnwys bydwragedd a meddygon obstetreg.
Cefnogir staff academaidd lleol gan y Tîm Cenedlaethol, yn enwedig yn ystod y cyfnod cynnar o weithredu. Mae tri Diwrnod Datblygu’r Gyfadran wedi’u cynnal hyd yn hyn, ac wedi adeiladu cronfa ddata o 95 o hwyluswyr ar draws GIG Cymru.
Safonau Cenedlaethol IFS Cymru
Mae'n ofynnol i Fyrddau Iechyd fodloni'r safonau canlynol:
- Nodi pob bydwraig a meddyg obstetreg cymwys yn flynyddol a chyflwyno'r wybodaeth hon i Cronfa Risg Cymru. Dylai staff locwm, staff asiantaeth a staff sy’n fyfyrwyr gael mynediad teg.
- Cyflwyno rhaglen IFS Cymru wyneb yn wyneb gan ddefnyddio adnoddau cenedlaethol safonol. Rhaid cynllunio digon o ddyddiadau hyfforddi i alluogi'r holl staff a nodwyd i fynychu'n flynyddol. Mae angen cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Dîm IFS Cymru ar gyfer addasiadau lleol.
- Cynnal tîm hwyluso amlbroffesiynol digonol o fydwragedd a meddygon obstetreg, sydd i gyd wedi mynd i ddigwyddiad Datblygu Cyfadran IFS Cymru neu wedi derbyn hyfforddiant amgen cymeradwy. Dylai aelodau’r gyfadran hwyluso’r rhaglen o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
- Sicrhau bod o leiaf 95% o fydwragedd a meddygon obstetreg a nodwyd yn mynd i raglen IFS Cymru lawn yn flynyddol. Nid yw mynd i gyrsiau monitro ffetysau lleol neu allanol amgen yn golygu cydymffurfio â'r safon hon.
Mae'r Tîm Cenedlaethol yn gweithredu mewn rôl gefnogol i bob Bwrdd Iechyd, ac yn darparu canllawiau gweithredu, adnoddau a sicrwydd ansawdd parhaus i gynnal safoni ledled Cymru.