Mae adborth yn ganolog i ddatblygiad parhaus a sicrhau ansawdd Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth (IFS) Cymru. Cesglir adborth gan gyfranogwyr yn rheolaidd yn dilyn hyfforddiant. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall sut brofiad yw'r rhaglen, lle mae hyder a dysgu'n gwella, a lle y gallai fod angen cymorth neu fireinio pellach. Mae hyn yn cael ei ategu gan y broses sicrhau ansawdd genedlaethol, sy'n dwyn ynghyd brofiad cyfranogwyr, adborth hwyluswyr a gwaith adolygu arsylwadol i nodi amrywiadau, rhannu arferion da a llywio datblygiad rhaglenni yn y dyfodol. Yn y modd hwn, nid dim ond casglu adborth sy'n cael ei wneud; fe'i defnyddir yn weithredol i gefnogi gwelliant parhaus a sicrhau bod Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth (IFS) Cymru yn parhau i fod yn berthnasol, yn ymatebol ac yn effeithiol.
Dangosodd y cyfranogwyr a aseswyd eu dealltwriaeth ar draws y chwe maes welliant amlwg. Yn yr asesiad ar ôl y cwrs, rhoddodd 72% o’r cynrychiolwyr sgôr o “eithriadol” neu “dda iawn” i’w gwybodaeth, sef cynnydd sylweddol o’i gymharu â’r 19.6% a welwyd yn yr asesiad cyn y cwrs.
“Addysgiadol iawn ac yn cynyddu hyder ar gyfer sifftiau clinigol.” - Bydqraig Ysbyty
“Diwrnod mor wych a oedd yn cynnwys cymaint o agweddau hollbwysig Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth (IFS). Roedd yn rhyngweithiol iawn, yn berthnasol ac yn addas i ymarfer. Roedd y siaradwyr i gyd yn wybodus iawn, yn arbenigwyr yn eu maes ac yn cyflwyno’n arbennig o dda.” - Obstetrydd
“Roedd yn ddiwrnod gwerthfawr iawn. Dysgais lawer a gwerthfawrogais ei fod yn cynnwys bydwragedd ac obstetryddion. Cyflwynwyd yr wybodaeth yn dda! Ac roedd y cynnwys mor bwysig! Bydded i hyn barhau er mwyn i bob gweithiwr mamolaeth allu cael mynediad iddo!” - Bydwraig Gymunedol
“Defnyddiol a rhyngweithiol iawn. Dysgais gymaint ac roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r sgwrs barchus rhwng bydwragedd cymunedol, bydwragedd ysbyty a'r tîm obstetreg.” - Bydwraig Gymunedol
"Y prif beth i mi ei ddysgu oedd pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, cydnabod risgiau posibl yn gynnar, a gweithio ar y cyd o fewn y tîm amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau gofal diogel sy'n canolbwyntio ar y claf." - Obstetrydd
"Dysgwch rywbeth newydd bob amser ar ddiwrnod Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth (IFS). Yn olaf, mae cysyniadau'n cael eu hesbonio yn hytrach na dim ond 'dyma sut mae hi', fel y byddai'n digwydd yn ystod diwrnodau astudio pan oeddwn i'n unigolyn dan hyfforddiant." - Obstetrydd