Neidio i'r prif gynnwy

Y Cyfnod Peilot

Llun ar gyfer Cyfnod peilot

 

Uchafbwyntiau'r Gwerthusiad o'r Cyfnod Peilot

  • Cwblhaodd 1,380 o gynrychiolwyr werthusiadau ôl-gwrs, yn cynnwys 1,143 o fydwragedd, 198 o obstetryddion a 39 o weithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys myfyrwyr bydwreigiaeth, myfyrwyr meddygol a darlithwyr prifysgol.
  • Rhoddodd 72% o’r cynrychiolwyr sgôr eithriadol neu dda iawn i’w gwybodaeth ar ôl y cwrs, o’i gymharu â 19.6% cyn y cwrs.
  • Gostyngodd y gyfran a oedd yn graddio eu gwybodaeth fel gweddol o 28.5% i 2.9%, sy'n dynodi newid cadarnhaol amlwg mewn gwybodaeth a hyder.
  • Derbyniodd y rhaglen sgôr gyffredinol gyfartalog o 8.82 allan o 10 ar draws yr holl Fyrddau Iechyd.
  • Cadarnhaodd 98% o’r cynrychiolwyr fod y cynnwys wedi’i gyflwyno’n addas ar gyfer eu rôl broffesiynol.

Gwerthuso Parhaus

Mae gwerthusiad o Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth (IFS) Cymru yn parhau, ac yn cyfuno adborth gan gynrychiolwyr a hwyluswyr ag adolygiad arsylwadol o'r ddarpariaeth hyfforddiant. Cesglir data yn unol â model gwerthuso Kirkpatrick, gyda'r rhifyn cyfredol o'r rhaglen wedi'i gynllunio i fesur i ba raddau y mae cynrychiolwyr yn rhoi eu dysgu ar waith yn ymarferol. Mae data canlyniadau clinigol sylfaenol wedi'i sicrhau ar draws pob Bwrdd Iechyd a bydd yn darparu'r sylfaen ar gyfer mesur effaith glinigol yn yr hirdymor wrth i'r rhaglen aeddfedu.

 

Byrddau Iechyd yn ystod y Cyfnod Peilot

Llun o bwrdd iechyd ar gyfer cyfnod peilot

 

Llun o bwrdd iechyd are gyfer cyfnod peilot

 

Llun o bwrdd iechyd ar gyfer cyfnod peilot

 

Llun o bwrdd iechyd ar gyfer cyfnod