Yn unol â meini prawf Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynglŷn â chyhoeddi cofnodion datgeliadau, rydym ni wedi cyhoeddi ein cofnodion yn seiliedig ar y canlynol.
Meini Prawf
Efallai y byddwn yn ychwanegu ymateb at ein cofnod datgeliadau os yw’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Gallwn ddangos sut y gwnaed penderfyniadau yn ein sefydliad, e.e. llawlyfr gweithdrefnau.
- Bod lles sylweddol i’r cyhoedd, yn hytrach na lles preifat.
- Bod y datgeliad yn pasio’r prawf lles y cyhoedd.
- Lle’r ydym ni wedi gwario arian cyhoeddus neu ddatgelu gwybodaeth am adnoddau.
Am resymau data personol, ni allwn gyhoeddi unrhyw geisiadau gan achwynydd am ohebiaeth a gedwir yn y ffeil ynglŷn â’i gŵyn.
Y Broses
Rydym ni’n asesu pob ymateb er mwyn penderfynu a ddylai gael ei gyhoeddi yn y cofnod datgeliadau. Os caiff ymateb ei newid o ganlyniad i adolygiad mewnol, bydd y cofnod datgeliadau’n cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.
Cadw
Symudir ymatebion i’n harchif cofnod datgeliadau ar ddiwedd y mis a chyn gynted ag y bydd unrhyw ymatebion y mae angen eu cynnwys yn cael eu cwblhau.
Yn ogystal, bydd y cofnod datgeliadau’n cael ei adolygu bob chwe mis a bydd hen ymatebion yn cael eu dileu o’r cofnod. Mae enghreifftiau o hen ymatebion yn cynnwys ymatebion i geisiadau am ystadegau sydd wedi cael eu disodli gan gais mwy diweddar a lle nad yw datgeliad penodol er lles i’r cyhoedd mwyach.