Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth

Making a freedom of information request

Pa wybodaeth y gallaf ofyn amdani?

Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am unrhyw wybodaeth sydd wedi'i chofnodi a gedwir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
  • Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth yr ydych yn credu y gallem fod yn ei chadw. Dim ond gwybodaeth sydd wedi'i chofnodi y mae'r hawl hon yn ei chwmpasu.
  • Gall eich cais fod ar ffurf cwestiwn, ond nid oes rhaid i ni ateb eich cwestiwn pe byddai hyn yn golygu creu gwybodaeth newydd neu roi barn neu ddyfarniad nad ydynt eisoes wedi'u cofnodi.
  • Dylech nodi'n glir y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
  • Efallai na fydd rhai mathau o wybodaeth yn cael ei rhoi i chi gan ei bod wedi'i heithrio. Er enghraifft, os byddai'n golygu datgelu gwybodaeth bersonol am rywun arall mewn modd annheg.
Os yw'r wybodaeth yn wybodaeth amgylcheddol, yna bydd y Bartneriaeth Cydwasanaethau yn ymateb yn unol â'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR).  Nid oes angen i chi wybod p'un a yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi'i chwmpasu gan yr EIR neu'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd y Bartneriaeth Cydwasanaethau yn penderfynu pa broses y mae angen iddi ei dilyn.
 

Pryd y gallaf ofyn am wybodaeth?

Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth o'ch dewis, ar unrhyw adeg, ond efallai na fyddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth honno bob tro. Cyn i chi wneud cais, gall fod yn ddefnyddiol ystyried y cwestiynau canlynol:
  • A yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael eisoes? - Er enghraifft, a yw eisoes wedi'i chyhoeddi ar ein gwefan.
  • Ai eich ddata personol eich hun yw'r wybodaeth rydych chi ei heisiau? - Os yw eich cais am wybodaeth amdanoch chi'ch hun, fel eich cofnodion meddygol, dylech wneud cais am fynediad at ddata gan y testun o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR).
  • A yw'r wybodaeth yn debygol o fod ym meddiant y Bartneriaeth Cydwasanaethau? - Gall arbed amser drwy ofyn i ni p'un a yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn debygol o fod gennym.

Sut y dylwn eirio fy nghais?

Dylai eich cais nodi'n glir y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
  • Byddwch mor glir â phosibl. Os nad ydym yn siŵr beth sydd ei angen arnoch, bydd yn rhaid i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth.
  • Ceisiwch nodi yn union beth sydd ei angen arnoch. Gellir gwrthod eich cais pe byddai'n rhy ddrud i ni ymdrin ag ef. Gallwn hefyd godi tâl arnoch am rai o'r treuliau sy'n gysylltiedig â chyflenwi'r wybodaeth, er enghraifft, llungopïo.
  • Lle bynnag y bo'n bosibl, gofynnwch am wybodaeth benodol yn hytrach na defnyddio cwestiynau penagored. Mae 'Beth' neu 'Faint' yn debygol o gael ateb mwy defnyddiol na 'Pam'.
  • Dywedwch sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth. Er enghraifft, p'un a ydych am gael y wybodaeth yn electronig neu ar bapur.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

Dylem anfon ateb atoch o fewn 20 diwrnod gwaith. Gallem:
  • ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi;
  • dweud wrthych nad ydym yn cadw'r wybodaeth;
  • dweud wrthych bod awdurdod arall yn cadw'r wybodaeth;
  • dweud bod y wybodaeth gennym a chynnig ei darparu i chi ar ôl i chi dalu ffi;
  • gwrthod rhoi'r wybodaeth i chi ac esbonio pam; neu
  • ddweud bod angen mwy o amser arnom i ystyried budd y cyhoedd, a dweud wrthych pa bryd i ddisgwyl ymateb.

Beth os byddaf am wneud cwyn?

Os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, dylech ofyn am adolygiad mewnol gan PCGC yn y lle cyntaf. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
 
Gellir ymdrin â cheisiadau am wybodaeth amgylcheddol yn wahanol i geisiadau am fathau eraill o wybodaeth.  Fodd bynnag, dylem ymateb o fewn 30 diwrnod beth bynnag a rhoi rhesymau i chi os byddwn yn gwrthod eich cais.
 

Beth os bydd angen rhagor o gymorth arnaf?

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw agwedd ar ryddid gwybodaeth, cysylltwch â:
 
Rhannu: