Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion Datgeliadau

Disclosure Logs

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Cofnod Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth

Mae cofnod datgeliadau Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn rhestru ein hymatebion i geisiadau a wnaed o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Yn unol â meini prawf Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynglŷn â chyhoeddi cofnodion datgeliadau, rydym ni wedi cyhoeddi ein cofnodion yn seiliedig ar y canlynol.
 

Meini Prawf

Efallai y byddwn yn ychwanegu ymateb at ein cofnod datgeliadau os yw’n bodloni’r meini prawf canlynol:
  • Gallwn ddangos sut y gwnaed penderfyniadau yn ein sefydliad, e.e. llawlyfr gweithdrefnau.
  • Bod lles sylweddol i’r cyhoedd, yn hytrach na lles preifat.
  • Bod y datgeliad yn pasio’r prawf lles y cyhoedd.
  • Lle’r ydym ni wedi gwario arian cyhoeddus neu ddatgelu gwybodaeth am adnoddau.
Am resymau data personol, ni allwn gyhoeddi unrhyw geisiadau gan achwynydd am ohebiaeth a gedwir yn y ffeil ynglŷn â’i gŵyn.
 

Y Broses

Rydym ni’n asesu pob ymateb er mwyn penderfynu a ddylai gael ei gyhoeddi yn y cofnod datgeliadau. Os caiff ymateb ei newid o ganlyniad i adolygiad mewnol, bydd y cofnod datgeliadau’n cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.
 

Cadw

Symudir ymatebion i’n harchif cofnod datgeliadau ar ddiwedd y mis a chyn gynted ag y bydd unrhyw ymatebion y mae angen eu cynnwys yn cael eu cwblhau.
 
Yn ogystal, bydd y cofnod datgeliadau’n cael ei adolygu bob chwe mis a bydd hen ymatebion yn cael eu dileu o’r cofnod. Mae enghreifftiau o hen ymatebion yn cynnwys ymatebion i geisiadau am ystadegau sydd wedi cael eu disodli gan gais mwy diweddar a lle nad yw datgeliad penodol er lles i’r cyhoedd mwyach.
 
 

 

Rhannu: