Neidio i'r prif gynnwy

Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus

Public information
Mae ailddefnyddio’n golygu defnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus at ddiben heblaw am y ‘dasg gyhoeddus’ gychwynnol y’i cynhyrchwyd ar ei chyfer. Yn nodweddiadol, byddai hyn yn golygu bod unigolyn, cwmni neu sefydliad arall yn cymryd y wybodaeth a gynhyrchwyd neu a ryddhawyd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a’i hailgyhoeddi neu ei defnyddio i greu cynnyrch neu adnodd newydd, yn aml trwy ei chyfuno â gwybodaeth arall. Mae hyn yn cael ei wneud ar sail fasnachol weithiau (ond nid bob tro). Felly, mae’r wybodaeth yn y canllaw wedi’i bwriadu i annog ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus.
 
Mae ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus yn ymwneud â chaniatáu ailddefnyddio gwybodaeth a sut y sicrheir ei bod ar gael.
 

Nid yw'n ymwneud â chael mynediad at wybodaeth, yr ymdrinnir â hi o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth megis ceisiadau cyrchu gwrthrych data o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) neu drwy ddefnyddio Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000).

Mae gwybodaeth sector cyhoeddus yn golygu gwybodaeth sydd wedi cael ei phrosesu yn rhan o ‘dasgau cyhoeddus’ sefydliad. Diffinnir ‘tasg gyhoeddus’ fel rolau a swyddogaethau craidd sefydliad, fel y’u diffiniwyd mewn deddfwriaeth neu y’u sefydlwyd trwy arferion ac ymarfer.
 
Diben y canllaw yw rhoi gwybodaeth am Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus a’i brosesau i’r rhai sydd wedi gofyn i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am wybodaeth.
 
Mae canllaw ar ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus ar gyfer y rhai sydd wedi gofyn i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am wybodaeth ar gael yma.
 
Rhannu: