Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cydweithredol Gwrth-drais y GIG

Nurses Talking

Cefndir

Cydnabyddir bod staff y GIG (Ysbyty, Ambiwlans, Gofal Cymunedol a Sylfaenol) ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o wynebu trais a chael eu cam-drin yn ystod eu cyflogaeth ac mae cryn ddiddordeb ymysg y cyhoedd mewn erlyn y rhai sy'n ymosod yn fwriadol ac yn gorfforol ar staff y GIG.

Gyda hyn mewn golwg, daeth GIG Cymru, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i gytundeb o’r enw ‘Ymatebion Gorfodol i Drais ym maes Gofal Iechyd’ ynghylch trais yn erbyn staff GIG Cymru, yn dilyn cytundeb tebyg rhwng partïon cyfatebol yn Lloegr.

Fel rhan o'r broses hon, sefydlwyd Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais GIG Cymru, sydd â chynrychiolaeth o GIG Cymru, yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Llywodraeth Cymru a'r Undebau.

 

Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais GIG Cymru

Mae’r grŵp hwn yn cyfarfod â’r partïon i gyd ddwywaith y mis i adolygu’r gwaith o roi’r cytundeb ar waith a’i effeithiolrwydd.

Cadeirydd y Grŵp yw Jonathan Webb, Pennaeth Anafiadau Personol, Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC.

 

Y cytundeb ‘Ymatebion Gorfodol i Drais ym maes Gofal Iechyd’

Mae'r cytundeb 'Ymatebion gorfodol i drais mewn gof'al iechyd' yn nodi cyfrifoldebau partneriaid wrth ddelio â digwyddiadau treisgar neu ymosodol sy'n ymwneud â staff y GIG. Bydd yn canolbwyntio ar y digwyddiadau hynny y mae’n rhaid i’r system cyfiawnder troseddol fynd i’r afael â nhw, sy’n cynnwys:

  • Gwella adrodd am ddigwyddiadau treisgar
  • Cryfhau’r broses ymchwilio ac erlyn, trwy wella ansawdd gwybodaeth a phrydlondeb wrth ei rhannu
  • Gwella gofal a hyder i ddioddefwyr a thystion
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am drais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn staff y GIG, ac am y camau y bydd pob parti yn eu cymryd.

 

Rhagor o wybodaeth

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais GIG Cymru trwy ein Pecyn Cymorth Cyfathrebu. Gellir dod o hyd i hwn yn y ddewislen ar y chwith. Mae'r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth am Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais GIG Cymru ac mae'n cynnwys deunyddiau i'ch helpu chi i egluro beth yw gwaith Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais GIG Cymru i'ch cynulleidfaoedd.

 

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriwch bob gohebiaeth Cyfeiriwch bob gohebiaeth yn Cronfa Risg Cymru: antiviolence.collaborative@wales.nhs.uk

Noth, South, Gwent and Powys police, CPS Welsh Government, NHS Wales, NWSSP nad NWSSP Legal and Rsik Services logos.

Rhannu: