Neidio i'r prif gynnwy

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o’n gweithgarwch cyfathrebu ac mae gan Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais GIG Cymru ddwy sianel cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, sef Twitter a YouTube.

Mae croeso i chi ein dilyn a lawrlwytho ein fideos i helpu i ledaenu ein negeseuon i’ch staff, i’ch cleifion ac i’ch ymwelwyr.

 

Twitter Twitter

Mae ein cyfrif Twitter yn ein helpu i rannu ein diweddariadau, y gwaith rydym yn ei wneud gyda’n partneriaid ac mae hefyd yn rhoi’r llwyfan i ni rannu ein negeseuon pwysig.

Ein henw ar Twitter yw: @NHSAntiViolence

Ein hashnod yw: #GrymusoTrwyAtal

Mae rhestr o drydariadau y gallech eu defnyddio i drydar ar eich platfform Twitter i’w gweld isod.

Mae @NHSAntiViolence yn anelu at weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr #GIGCymru, Undebau, Heddluoedd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://pcgc.gig.cymru/amdanom-ni/ein-cyhoeddiadau/grwp-cydweithredol-gwrth-drais-y-gig/

Mae cytundeb @NHSAntiViolence, ‘Ymatebion Gorfodol i Drais ym maes Gofal Iechyd’ yn anelu at wella adrodd, cryfhau ymchwilio ac erlyn a gwella gofal a hyder y dioddefwr a’r tyst.

Darllenwch y cytundeb yma: https://pcgc.gig.cymru/amdanom-ni/ein-cyhoeddiadau/grwp-cydweithredol-gwrth-drais-y-gig/pecyn-cymorth-cyfathrebu/dogfennau-allweddol/

 

 

YouTube Youtube

Rydym yn darparu ein fideos ar YouTube fel y gall ein cynulleidfaoedd weld ein fideo lansio, ein cymorth gweithredol a’r gwaith diweddaraf rydym yn ei wneud i helpu i hyrwyddo ein rhanddeiliaid.

Mae’r dolenni ar gyfer ein fideos fel a ganlyn:

https://www.youtube.com/watch?v=kuN6El-ZSBQ&t=107s

https://www.youtube.com/watch?v=ng7Y4OFRx08&t=20s

Mae modd gweld y fideos a’u lawrlwytho trwy ein tudalennau gwe yma.

 

Rhannu: