Neidio i'r prif gynnwy

Colin Powell

 

Colin Powell circle Yn dilyn proses recriwtio gadarn, rydym yn falch o gyhoeddi mai Colin Powell fydd y Cyfarwyddwr a fydd yn gyfrifol am Wasanaethau Technegol Fferyllol Cymru Gyfan.

Bydd gan Colin gyfrifoldeb fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn ogystal â Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Rhaglen Weithredu Gwasanaethau ac fe fydd e hefyd yn chwarae rôl allweddol fel rhan o Grŵp Prif Fferyllydd Cymru Gyfan.

Mae Colin wedi cael gyrfa eang ac amrywiol. Cychwynnodd ei yrfa yn gweithio ym maes cynhyrchu di-haint a gwasanaethau aseptig mewn nifer o rolau gan gynnwys rôl Fferyllydd Cynhyrchu Cymru Gyfan dros gyfnod o naw mlynedd. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu a chadeirio Grŵp Fferyllwyr Cynhyrchu a Gwasanaethau Aseptig Cymru Gyfan, grŵp a gafodd ei ail-enwi’n Fferylliaeth Glinigol a Gwasanaethau Technegol (CPTS) ac sy'n dal i fodoli heddiw. Yna, yn 2014, cynhaliodd archwiliad o’r cyfleusterau aseptig yng Nghymru lle cyflwynwyd adroddiad i’r Grŵp Prif Fferyllydd gyda’r Fferyllydd Rheoli Ansawdd Cymru Gyfan ar y pryd.

Mae Colin wedi mireinio ei sgiliau arwain gan ddod yn Rheolwr Prosiect Blwyddyn 2000 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Arweinydd Dylunio Clinigol ar gyfer Hysbysu Gofal Iechyd (Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach) ac fel Cadeirydd y Grŵp Gweithredu Fferylliaeth (PIG) ar gyfer system gyfrifiadurol fferyllfa genedlaethol WellSky.

Yn fwy diweddar, Colin oedd Prif Fferyllydd Gwasanaethau Acíwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac roedd ganddo gyfrifoldeb am yr holl wasanaethau Fferylliaeth acíwt a ddarparwyd o'r pedair fferyllfa yn y Bwrdd Iechyd, sydd wedi’u lleoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Ystrad Fawr, ac Ysbyty’r Faenor a agorwyd ym mis Tachwedd 2020.

Wrth gyhoeddi ei benodiad, dywedodd Colin:

‘Mae’n anrhydedd ac rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi i’r swydd hon. Alla i ddim aros i ddechrau arni.

Rydym yn hynod lwcus i gael y cyfle i gryfhau’r gwasanaeth a'r arbenigedd presennol yn y 3 hyb rhanbarthol, gan y bydd yn caniatáu inni ddatblygu gwasanaeth genedlaethol go iawn i bobl Cymru.  Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i PCGC, i Grŵp y Prif Fferyllydd ac i’m cydweithwyr o bob cwr o Gymru am eu gwaith caled a’n galluogodd i gyrraedd y pwynt hwn, ac i Lywodraeth Cymru am sicrhau bod y cyllid ar gael.'

Rhannu: