Neidio i'r prif gynnwy

Neil Frow OBE

Rheolwr Gyfarwyddwr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Neil wedi meithrin profiad sylweddol yn gweithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae’n gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig. Ar ddechrau ei yrfa treuliodd Neil gyfnod yn gweithio yn Adran UK Aggregates Hanson PLC cyn ymuno â’r GIG yn 2005 fel aelod o Dîm Rheoli Gwasanaethau Busnes Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynodd y Safon Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid newydd i GIG Cymru. Yna symudodd i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn 2010 lle yr arweiniodd swyddogaethau contractio a chynaliadwyedd gofal iechyd yn y tîm cyllid.

Symudodd i’w swydd bresennol fel Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2011 a bu’n flaenllaw wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu trefniadau llywodraethu ar gyfer cydwasanaethau.

Sefydlwyd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ym mis Ebrill 2011 i ddarparu ystod o wasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol o safon uchel sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac sy’n cynorthwyo byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru.

Yn ystod ei amser yn GIG Cymru, mae Neil wedi parhau â’i ddatblygiad proffesiynol ac fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol Gyrfa Cymru Canolbarth Cymru a Phowys yn 2009 ac yn fwy diweddar fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol  y sefydliad newydd Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru) sydd yn ddiweddar wedi dod yn is-gorff sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru.

Mae Neil yn frwdfrydig dros wella ansawdd gwasanaethau iechyd ac mae wedi annog gweithio mewn partneriaeth yn rhagweithiol fel catalydd i wella ansawdd gwasanaethau a’r ffocws ar gwsmeriaid.

Neil Frow

 

Cyswllt

Cynorthwyydd Personol

Tracy O'Connor

Ffôn: 01443 848585

 

Rhannu: