Cyfarwyddwr Meddygol
Dr Martin Edwards yw Cyfarwyddwr Meddygol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ac mae’n Bediatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Plant Cymru. Ymunodd â PCGC fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol yn 2024. Mae ganddo ymrwymiad cryf i gefnogi staff, cryfhau llywodraethu a helpu GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau diogel a chyson trwy ddull Unwaith i Gymru.
Mae cefndir clinigol Martin ym maes pediatreg, lle mae'n parhau i ymarfer ochr yn ochr â'i rôl weithredol. Mae wedi dal amrywiaeth o swyddi arweinyddiaeth uwch ar draws GIG Cymru, a rolau cenedlaethol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r rolau hyn wedi rhoi profiad eang iddo ym maes addysg feddygol, arweinyddiaeth y gweithlu, safonau proffesiynol a rheoli achosion cymhleth. Mae e wedi gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru hefyd.
Yn PCGC, mae Martin yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws pob is-adran er mwyn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o godi llais, gwreiddio’r Ddyletswydd Ansawdd a sicrhau llywodraethu teg, tosturiol a thryloyw. Mae'n angerddol am lesiant y gweithlu, arweinyddiaeth gynhwysol a chreu systemau sy'n cefnogi staff i wneud eu gwaith gorau i gleifion a'r cyhoedd.
Y tu allan i'r gwaith, mae Martin yn byw yng Nghymru ac yn trysori treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Gellir ei weld yn aml allan yn cerdded ei gi labrador coch. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn mentrau hyfforddi, mentora a llesiant. Daw â'r diddordebau hyn i'w arddull arweinyddiaeth, gan ganolbwyntio ar wrando, cydweithio a gwelliant parhaus.
Ymholiadau
Shelley Jones
Ffon: 029 21 501500