Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Caffael
Dechreuodd Jonathan ei rôl fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael a Negesydd Iechyd ym mis Medi 2019. Mae gan Jonathan brofiad helaeth o arwain caffael ar lefel genedlaethol o'i gyfnod yn Business Services Organisation, Procurement and Logistics Service yng Ngogledd Iwerddon lle bu'n ymwneud â’r broses o weithredu a datblygu cydwasanaeth caffael a logisteg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled y wlad.
Yn fwyaf diweddar, mae wedi arwain swyddogaeth y Gwasanaethau Caffael ar gyfer un o'r Ymddiriedolaethau acíwt mwyaf yn Lloegr, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham, lle cyflwynodd raglenni lleihau costau sylweddol a dulliau arloesol sy’n seiliedig ar werth i gaffael gan ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion.
Bydd yn defnyddio ei brofiad i ddatblygu’r dull “Unwaith i Gymru” o gaffael o fewn y GIG ymhellach a sicrhau bod y genedl yn harneisio ac yn manteisio ar ei phŵer prynu ar y cyd a'i dylanwad i ddarparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau gofal iechyd gwerth am arian i gleifion Cymru. Bydd Jonathan yn sicrhau bod Gwasanaethau Caffael hefyd yn parhau i gefnogi Byrddau Iechyd a’r holl bartneriaid allanol i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol i gynorthwyo cleifion yn eu hardal leol.
Y tu allan i'r gwaith, mae Jonathan yn rhedwr ffordd a thraws gwlad brwd ac mae wedi ymuno â Rhedwyr Penarth a Dinas er mwyn parhau i gymryd rhan yn y gamp y mae'n ei charu.
Mae Jonathan yn awyddus i sicrhau ei fod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol a pharhaol i GIG Cymru a’i gleifion yn y blynyddoedd i ddod.
Cynorthwyydd Personol
Tracy O'Connor
Ffôn: 01443 848558