Cadeirydd, Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Gan ddechrau ei gyrfa yn y GIG yn 1984 fel derbynnydd yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd, symudodd Tracy i adnoddau dynol a daeth yn gymwys yn broffesiynol, gan arwain at yrfa lwyddiannus gyda rolau cyfarwyddwr AD ar lefel leol a chenedlaethol. Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio mewn nifer o rolau ar lefel bwrdd gan gynnwys fel prif weithredwr, mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd a llywodraeth.
Rhwng 2014 a 2018, Tracy oedd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chwaraeodd ran amlwg yn y gwaith o drawsnewid y gwasanaeth. Yn dilyn y penodiad hwn, bu'n brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe tan ei hymddeoliad ddiwedd 2020.
Penodwyd Tracy yn Gadeirydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2021.
Mae Tracy yn arweinydd ymroddgar a naturiol, gyda gwerthoedd personol cryf o fod yn agored ac yn onest, ac mae'n angerddol am wella iechyd y boblogaeth a'r gwasanaethau iechyd, ac mae ganddi ymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a rhanddeiliaid.
Mae ymagwedd egnïol a charismatig Tracy wedi ennill nifer o anrhydeddau a chydnabyddiaeth iddi, gan gynnwys cael ei gwneud yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a derbyn OBE am ei gwasanaethau i GIG Cymru.
Mae Tracy yn briod â'i gwraig, Dee, ac mae ganddi bedwar o blant sy'n oedolion.