Penodwyd Mark fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Chronfa Risg Cymru yn 2020, ar ôl bron i ddau ddegawd yn gweithio i ni fel cyfreithiwr ymgynghorol cyffredinol/esgeulustod clinigol a rheolwr tîm.
Mae gan Mark radd LLB yn y gyfraith, gradd Meistr LLM mewn Cyfraith Fasnachol/Materion Morol a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd, y dyfarnwyd pob un ohonynt gan Brifysgol Caerdydd.
Meysydd o ddiddordeb arbennig Mark yw hawliadau esgeulustod clinigol, anghydfodau ynghylch cyllido iechyd a llywodraethu. Mae Mark wedi rhoi cyngor cyfreithiol ar ystod eang iawn o faterion cyfreithiol un-tro sy’n wynebu cyrff y GIG yn eu busnes o ddydd i ddydd, ac mae wedi cynghori ar dros 3,000 o faterion cyfreithiol unigol dros y degawd diwethaf. Arweiniodd Mark weithgarwch ac ymgysylltiad Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg â Llywodraeth Cymru i weithredu’r cynllun indemniad ar gyfer meddygon teulu, a ddechreuodd yn 2019.
Fel llawer o’n rheolwyr tîm, mae gan Mark dros ddau ddegawd o brofiad o hawliadau esgeulustod clinigol, gan fod wedi rheoli dros 1,000 ohonynt a bod yn rhan o dros 100 o gwestau.
Ysgrifennydd
Emma Jones
Ffôn: 02920 903748