Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am y cynllun

 

Mae Cynllun Prydlesu Ceir Cymru Gyfan y GIG yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth sydd â’r nod o ddarparu dewis arall i weithwyr y mae'n ofynnol iddynt deithio fel rhan o'u swydd yn lle defnyddio eu ceir eu hunain.  Fe'i darperir er budd staff ac mae’n niwtral o ran cost, fel dewis amgen yn lle ad-dalu cyfraddau milltiroedd y GIG.  

  • Mae pob contract car prydles yn para 3 blynedd. 
  • Mae pob car wedi'i adeiladu i fodloni'ch manylebau unigol. 

Ar ddiwedd y cyfnod prydlesu, cewch naill ai ddychwelyd y car i'r Cwmni Prydlesu, cymryd prydles newydd neu gallwch wneud cais i brynu'r car. Am ragor o wybodaeth a throsolwg mwy manwl o'r cynllun, cysylltwch ag adran Cynllun Prydlesu Ceir Cymru Gyfan y GIG.

Rhannu: